Caiff adroddiad yn cynnwys argymhellion o Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent – a gynhaliwyd yn ddiweddar a’r cyntaf o’i fath yng Nghymru – ei gyhoeddi heddiw.
Cynhaliwyd y Cynulliad yn rhithiol dros ddau benwythnos ym mis Mawrth a daeth ynghyd â dros 40 o bobl a ddewiswyd ar hap, ac yn gynrychioladol yn ddemograffig, sy’n byw yn y fwrdeistref sirol i drafod y cwestiwn pwysig iawn: “Beth ddylem ni ym Mlaenau Gwent ei wneud i fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd mewn ffordd sy’n deg ac yn gwella safonau byw i bawb”
Mabwysiadodd y Cynulliad Hinsawdd bump argymhelliad yn gysylltiedig â thrafnidiaeth, tai a gofod gwyrdd, a gafodd dros 80% o gefnogaeth. Cafodd yr argymhellion eu hysgrifennu gan aelodau’r Cynulliad eu hunain a’i seilio ar gyflwyniadau gan arbenigwyr newid hinsawdd.
Medrir gweld yr argymhellion a’r adroddiad llawn yn y dolenni cysylltiedig.
Cliciwch Yma.
Lluniwyd yr adroddiad gan Cynnal Cymru a Chymdeithas Diwygio Etholiadol Cymru, dau o bartneriaid a drefnodd Gynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent.
Ym mis Medi y llynedd, fe wnaeth y Cyngor ddatgan yn swyddogol fod Argyfwng Hinsawdd ym Mlaenau Gwent. Yr wythnos nesaf, bydd pob cynghorydd bwrdeistref yn cael cyfle i glywed gan aelodau Cynulliad Hinsawdd Blaenau Gwent am eu hargymhellion ac ystyried sut y gallant symud ymlaen â’r agenda.
Mae Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Blaenau Gwent, sydd wedi dod â sefydliadau yn cynnwys y cyngor, iechyd, tai, heddlu a’r sector gwirfoddol ynghyd, wedi ymroi i roi ymateb ysgrifenedig i’r argymhellion hyn yn eu cyfarfod nesaf ym mis Gorffennaf. Mae hyn yn adlewyrchu ymrwymiad hirdymor partneriaid y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus i Flaenau Gwent chwarae ei ran lawn wrth weithredu i gyflawni targed Cymru i allyriadau Sero-Net erbyn 2050.
Dywedodd y Cyng Dai Davies, Dirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd y Cyngor, fydd yn arwain y briffiad. Dywedodd:
“Rydym yn hollol ymroddedig fel Cyngor i weithio gydag ystod eang o bartneriaid i wneud popeth a fedrwn i ymateb yn lleol i’r broblem fyd-eang hon. Sylweddolwn yr heriau enfawr sydd o’n blaen i gyd wrth geisio diogelu ein hamgylchedd ar gyfer llesiant cenedlaethau’r dyfodol. Dyna pam i ni fel awdurdod lleol ddatgan Argyfwng Hinsawdd a’n bod eisoes wedi dechrau gweithredu drwy ein Cynllun Datgarboneiddio. Aiff y cynllun hwn â ni i ddull gweithredu mwy strategol tuag at cyflawni niwtraliaeth carbon drwy flaenoriaethu gwaith mewn nifer o feysydd allweddol o’n gweithrediadau a all, gyda rhai newidiadau, wneud cyfraniad sylweddol tuag at ein nod o fod yn niwtral o ran carbon.
“Roedd y bobl yn y Cynulliad Hinsawdd yr un mor angerddol am ein hamgylchedd a bydd eu hargymhellion yn helpu i ganolbwyntio hyd yn oed fwy ar ein meddyliau a dweud wrthym beth yr ystyriant yn allweddol i fynd i’r afael â’r mater. Diolch i bawb a gymerodd ran am roi eu hamser.”
Cyflwynir yr adroddiad hefyd i Fwrdd Gwasanaethau Blaenau Gwent, gan fod gweithio gyda phartneriaid rhanbarthol yn allweddol i fynd i’r afael â materion amgylcheddol.
Dywedodd Sarah Hopkins, Cyfarwyddwr, Cynnal Cymru:
“Bydd y symud i sero-net yn golygu newidiadau i fywydau pobl felly mae’n hanfodol fod cymunedau yn deall ac yn cymryd rhan yn y daith. Mae mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd yn rhoi cyfle i fynd i’r afael â’r anghydraddoldeb sy’n bodoli yng Nghymru a gwella bywyd i bawb. Mae’n wirioneddol galonogol gweld ymrwymiad Cyngor Blaenau Gwent, y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ehangach a’r cymdeithasau tai i wrando ac ymateb i’r argymhellion gan y Cynulliad.
“Gobeithiwn y bydd ardaloedd eraill yng Nghymru hefyd yn defnyddio prosesau tebyg i lywio cynlluniau gweithredu ar ddatgarboneiddio.”
Dywedodd Steve Cranston, Arweinydd Economi Sylfaen Tai United Welsh:
“Rydym yn hynod falch i fod wedi cymryd rhan yng nghynulliad hinsawdd cyntaf Cymru. Mae’n dangos ei bod yn bosibl dod â sampl cynrychioladol o bobl ynghyd – a mynd i’r afael ag un o’r heriau caletaf sy’n ein hwynebu i gyd – yr argyfwng hinsawdd. Mae’r broses Cynulliad Hinsawdd yn un sy’n parchu gwahanol safbwyntiau ac yn meithrin ymddiriedaeth. Cafodd y 5 argymhelliad uchaf gefnogaeth lethol o 80% gan aelodau. Mae hyn yn rhoi pwysau a hygrededd i’r argymhellion sy’n anodd eu hanwybyddu. Bu’r broses o gydweithio ar draws cymdeithasau tai, yr awdurdod lleol, sefydliadau cymdeithas ddinesig a dinasyddion yn un gadarnhaol lle cafodd cysylltiadau eu cryfhau ac y cafodd ymddiriedaeth ei adeiladu.
“Mae’r pedair cymdeithas tai a gefnogodd y Cynulliad Hinsawdd – Linc Cymru , Cartrefi Melin, Tai Calon ac United Welsh – yn gweithio i ddatblygu ymateb cydlynol i’r argymhellion. Bydd yr argymhellion yn helpu i lunio ein blaenoriaethau yn y dyfodol ym meysydd allweddol ôl-osod tai.”
Trefnwyd Cynlluniad Hinsawdd Blaenau Gwent gan gymdeithasau tai United Welsh, Linc Cymru, Cartrefi Melin a Tai Calon mewn partneriaeth gydag elusen datblygu cynaliadwy Cynnal Cymru, Cyngor Blaenau Gwent ac ERS Cymru.