Mae ffermydd yn cynnig hwyl i'r teulu cyfan. Fodd bynnag, mae anifeiliaid yn cario germau a all achosi salwch (dolur rhydd, chwydu, ac ati). Mae risg uwch i bobl mewn grwpiau agored i niwed (plant ifanc, menywod beichiog, yr henoed, imiwnedd gwan). Gall germau gael eu lledaenu trwy gyswllt ag anifeiliaid, eu gwastraff, neu ardaloedd halogedig.
Mae Cyngor Blaenau Gwent yn atgoffa pobl i edrych ar y cyngor sydd ar gael isod wrth ymweld â fferm.
Yn bwysicaf oll, sicrhewch hylendid dwylo da.
Camau Diogelwch Allweddol:
- Golchwch eich dwylo'n drylwyr gyda sebon a dŵr cynnes ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid ac arwynebau, yn enwedig cyn bwyta neu gyffwrdd â'ch wyneb. Mae diheintwyr dwylo yn annigonol o gymharu â golchi dwylo.
- Os nad oes digon o gyfleusterau golchi ar gael ar y fferm, peidiwch â chyffwrdd ag unrhyw anifeiliaid. Ystyriwch godi unrhyw bryderon ynghylch cyfleusterau annigonol gyda'ch tîm Iechyd Amgylcheddol lleol.
- Goruchwyliwch blant pan fyddan nhw’n golchi eu dwylo.
- Peidiwch â chyffwrdd â'ch wyneb, bwyta, neu yfed ger anifeiliaid.
- Peidiwch â chusanu neu roi eich wyneb yn agos at yr anifeiliaid.
- Bwytwch mewn ardaloedd penodol ar y fferm yn unig a pheidiwch â bwyta (gan gynnwys losin neu gwm cnoi) wrth symud o gwmpas y safle.
- Gwisgwch esgidiau caeedig a glanhewch nhw ar ôl eich ymweliad.
- Golchwch ddillad sy'n cael eu gwisgo o amgylch anifeiliaid ar 60°C neu boethach (os yn bosibl) am 30 munud, gyda hylif glanhau da.
- Dilynwch ganllawiau staff y fferm.
Os yn sâl:
- Os ydych chi'n datblygu symptomau o fewn pythefnos (dolur rhydd, chwydu, ac ati) o ddyddiad eich ymweliad, cysylltwch â'ch meddyg teulu i drefnu i ddarparu sampl ysgarthion.
- Ceisiwch sylw meddygol ar unwaith ar gyfer dolur rhydd gwaedlyd.
- Peidiwch â dychwelyd i'r gwaith, i'r ysgol, neu'r feithrinfa nes eich bod wedi bod yn rhydd o symptomau am 48 awr. Efallai y bydd angen profion ychwanegol ar rai achosion cyn dychwelyd.
- Dylai pobl sy’n trin bwyd, plant dan 5 oed, a phobl sy'n gweithio gyda phoblogaethau bregus ymgynghori â'u meddyg teulu ar unwaith.
- Os ydych chi'n amau bod gennych chi Cryptosporidium, neu os cadarnhawyd hynny, rhaid i chi osgoi nofio neu ddefnyddio cyfleusterau ymdrochi cymunedol am o leiaf 14 diwrnod.
Cyngor i Drefnwyr Digwyddiadau:
- Dylech wella ymwybyddiaeth a chydymffurfiaeth â chanllawiau hylendid ymhlith staff ac ymwelwyr.
- Darparwch gyfleusterau golchi dwylo hygyrch gyda dŵr poeth ac oer, sebon hylif, a thywelion papur.
- Ystyriwch gadw ŵyn mewn corlan, gan ganiatáu i ymwelwyr eu bwydo o ochr arall y ffens.
- Sicrhewch fod ŵyn sy’n sgwrio (diarëig) yn cael eu rhoi mewn cwarantîn a bod ardaloedd lle ceir cyswllt ag anifeiliaid yn cael eu diheintio'n rheolaidd.
- Defnyddiwch systemau archebu ar-lein ac ar y cyfryngau cymdeithasol i hyrwyddo cyngor iechyd y cyhoedd ac argymhellion hylendid.