Mae Diwrnod Cofio’r Holocost 2021 yn cael ei gynnal ar y 27ain o Ionawr a’r thema eleni yw, ‘Byddwch yn oleuni yn y tywyllwch’.
Mae Diwrnod Cofio’r Holocost yn rhoi cyfle i bawb fyfyrio ar y dyfnder y gall dynoliaeth suddo iddo, ond hefyd sut y gall unigolion a chymunedau wrthsefyll y tywyllwch hwnnw i ‘fod yn oleuni’ cyn hil-laddiad, yn ystod hil-laddiad ac ar ei ôl.
Mae’r thema ‘Byddwch yn oleuni yn y tywyllwch’ yn gofyn i bob un ohonom ystyried gwahanol fathau o ‘dywyllwch’, fel erledigaeth ar sail hunaniaeth, cam wybodaeth, gwadu cyfiawnder, a gwahanol ffyrdd o ‘fod yn oleuni’, trwy dynnu sylw at gamweddau a chydberthynas.
Er mwyn dangos ymrwymiad y cyngor i goffáu Diwrnod Cofio'r Holocost, bydd y Swyddfeydd Cyffredinol Glyn Ebwy yn cael ei oleuo'n borffor a gwyn, ddydd Mercher y 27ain o Ionawr.
Gan fod llawer o bobl yn treulio mwy o amser gartref, mae yna ychydig o ffyrdd creadigol y gallwch chi goffau DCH a chodi ymwybyddiaeth yn eich cartref.
Mae bwyd yn aml yn dod â phobl at ei gilydd, ac mae Ymddiriedolaeth Diwrnod Cofio'r Holocost (YDCH) wedi creu cardiau rysáit sy'n rhannu prydau sy'n bwysig i gymunedau a dargedwyd yn ystod hil-laddiad. Mae'r ryseitiau'n ffordd ymarferol o ddysgu am ddiwylliannau, a choffáu bywydau pobl a laddwyd yn ystod hil-laddiad.
Dywedodd y Cynghorydd Mandy Moore, Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Chadeirydd Cyngor Blaenau Gwent:
“Rydym yn benderfynol o gofio Diwrnod Cofio'r Holocost mewn ffordd ystyrlon, er gwaethaf y cyfyngiadau sy'n cael eu gorfodi arnom yn sgil y pandemig cyfredol. Mae goleuo adeiladau yn ffordd amlwg, nid yn unig i goffáu, ond i annog goddefgarwch tuag at eraill, gan leihau cynnydd mewn gwrth-Semitiaeth a thynnu sylw at grwpiau hawliau cymdeithasol fel #NotInMyName. Cofiwn eiriau Rabbi Menachem Margolin (2021, ejpress.org) ‘ni fu gwersi’r Holocost erioed mor daer a phwysig.”
Mae gwefan YDCH yn adnodd gwych i athrawon a rhieni sydd eisiau addysgu eu disgyblion/plant ddysgu gwersi o'r gorffennol mewn ffyrdd creadigol, myfyriol ac ysbrydoledig.
I gymryd rhan, beth am roi cynnig ar y ryseitiau, tynnwch lun eich seigiau cartref a defnyddiwch yr hashnodau #DiwrnodCofio’rHolocost #DCH2021 #GoleunimewnTywyllwch i’w rhannu gydag eraill.
Mae yna ystod o gardiau rysáit y gallwch bori trwyddynt a'u lawr lwytho o wefan DCH (HMD) - https://www.hmd.org.uk/resources/?resource_type=40