Arweinydd ac Aelodau Cabinet Cyngor Blaenau Gwent yn cael eu hailethol mewn CCB

Cynhaliwyd Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol Cyngor Blaenau Gwent heddiw (Dydd Iau, 23 Mai 2024).

Cafodd y Cynghorydd Stephen Thomas o’r Blaid Lafur ei ailethol yn ffurfiol fel Arweinydd y Cyngor gyda chyfrifoldeb dros Faterion Corfforaethol a Pherfformiad. Ailetholwyd y Cynghorydd Helen Cunningham yn Ddirprwy Arweinydd ac Aelod Gweithredol dros Leoedd a'r Amgylchedd.

Cafodd y Cynghorydd Chris Smith ei ailethol yn Llywydd y Cyngor. Mae’r Llywydd yn:

  • Cadeirio Cyfarfodydd y Cyngor
  • Cadw trefn i ddiogelu hawliau Aelodau gan gynnwys sicrhau bod busnes y Cyngor yn cael ei gynnal gyda chydraddoldeb a didueddrwydd.
  • Hyrwyddo ymgysylltiad ac arweinyddiaeth ddemocrataidd.

Y Dirprwy Lywydd fydd y Cynghorydd David Wilkshire unwaith eto.

Arhosodd Cabinet y Cyngor fel a ganlyn:

Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Faterion Corfforaethol a Pherfformiad – Y Cynghorydd Stephen Thomas

Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd – Y Cynghorydd Helen Cunningham

Aelod Cabinet Pobl ac Addysg – Y Cynghorydd Sue Edmunds

Aelod Cabinet Pobl a Gwasanaethau Cymdeithasol – Y Cynghorydd Haydn Trollope

Aelod Cabinet dros Leoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd – Y Cynghorydd John C. Morgan

Wrth gael ei ailethol yn Arweinydd y Cyngor, dywedodd y Cynghorydd Thomas:

"Unwaith eto, mae'n fraint cael fy ethol yn arweinydd Cyngor Blaenau Gwent.

"Rydym yn parhau i lywio ein prif flaenoriaethau wrth fynd i'r afael â'r argyfwng costau byw parhaus, sy'n parhau i fod yn hanfodol. Rydym yn cydnabod yr effaith ddifrifol y mae hyn yn ei chael ar lawer yn ein cymunedau ac rydym yn cydweithio'n weithredol â phartneriaid ledled rhanbarth Gwent i ddarparu cymorth ac arweiniad i deuluoedd sy'n ei chael hi'n anodd.

"Rydym yn wynebu cyfnod ariannol hynod heriol ac ansicr, gyda phenderfyniadau anoddach ar y gorwel. Fy nod yw cydweithio ag aelodau o bob cefndir gwleidyddol yma ym Mlaenau Gwent, gan sicrhau ein bod yn uno i ddarparu'r gwasanaethau gorau posibl i'n preswylwyr. Mae'n rhaid i ni chwilio am atebion arloesol i gynnal ein hymrwymiadau i gyfleoedd addysgol a sgiliau rhagorol, gofal cymdeithasol o ansawdd uchel, gwella ein hamgylchedd lleol, a mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.

"Yn ogystal, rydym yn gweithio gyda phartneriaid fel Llywodraeth Cymru a Phrifddinas-Ranbarth Caerdydd i gymryd camau breision mewn prosiectau adfywio ledled Blaenau Gwent. Ein nod yw adfywio ein cymunedau, creu cyfleoedd newydd, a meithrin ymdeimlad o falchder ac optimistiaeth ar gyfer y dyfodol. Gyda'n gilydd, byddwn yn adeiladu ar y cynnydd hwn ac yn ymdrechu at ddyfodol mwy disglair, mwy cynaliadwy i'n holl breswylwyr."

Penodwyd Cadeiryddion a Dirprwy Gadeiryddion y pwyllgorau canlynol hefyd:

Pwyllgor Craffu Pobl – Cllr Tommy Smith / Cllr Jen Morgan

Pwyllgor Craffu Lleoedd – Cllr Malcolm Cross / Cllr Ross Leadbetter

Pwyllgor Craffu Partneriaeth – Cllr Wayne Hodgins / Cllr Derrick Bevan

Pwyllgor Craffu Materion Corfforaethol a Pherfformiad – Cllr Joanna Wilkins / Cllr Jackie Thomas

Gwasanaethau Democrataidd – Cllr John Hill / Cllr Elen Jones

Pwyllgor Cynllunio – Cllr Lisa Winnett / Cllr Peter Baldwin

Pwyllgor Trwyddedu – Cllr Lisa Winnett / Cllr Peter Baldwin