Arddangosfeydd Tân Gwyllt – Cofrestrwch a Chadwch yn Ddiogel!

Bob blwyddyn ledled y DU, mae damweiniau y gellir eu hosgoi yn digwydd yn ystod digwyddiadau tân gwyllt, a all arwain at anafiadau difrifol i’r rhai sy’n mynychu a’r rhai sy’n trefnu a rhedeg y digwyddiad. Mae rhai o’r digwyddiadau hyn wedi bod yn angheuol hyd yn oed. Mae’r cynllun hwn, sydd yn rhad ac am ddim, yn cynnwys digwyddiadau a drefnwyd o bob maint ac fe’i cynlluniwyd i geisio sicrhau bod gan bawb ddigwyddiad hapus a di-ddamwain. Bydd swyddogion o’r cyngor yn cynnig arweiniad cyn y digwyddiad i’r rhai sy’n cynllunio ac yn rhedeg arddangosfeydd yn y fwrdeistref sirol ac fe fyddant yn ymweld cyn ac yn ystod y digwyddiad.

I gael rhagor o wybodaeth am y cynllun cofrestru, cysylltwch â chanolfan gyswllt y cyngor (C2BG) ar 01495 311556 a gofyn am gael eich cyfeirio at Iechyd yr Amgylchedd.

Dywed y Cynghorydd Wayne Hodgins, Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Mae ein staff Iechyd yr Amgylchedd wedi eu hyfforddi mewn diogelwch tân gwyllt a gallant gynnig cymorth a chyngor i drefnwyr digwyddiadau tân gwyllt yn y cyfnod cyn yr arddangosfa ac ymweld ar y noson ei hun. I wneud hyn, mae angen i ni fod yn ymwybodol bod digwyddiad yn cael ei gynnal, felly cofiwch gysylltu â ni i gofrestru eich digwyddiad tân gwyllt.”