Anfarwoli Arwr Lleol

Efallai fod Walter Conway yn enw cyfarwydd i drigolion Tredegar ym Mlaenau Gwent ond y tu allan i’r dref dyffryn hon mae’n llai adnabyddus. Fodd bynnag, mae cyfres o ddigwyddiadau yr wythnos hon yn amcanu at newid hyn.

Mae murlun wedi cael ei beintio ar ganolfan siopa’r dref lle mae portread hardd o Walter Conway wedi’i amgylchynu gan ddelweddau o leoliadau a oedd yn bwysig iddo. Mae’r rhain yn cynnwys Pwll Rhif 1 Pochin lle bu’n gweithio dan ddaear, Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle’r oedd yn ddiacon ac yn athro, Swyddfeydd Cymorth Meddygol Tredegar a’r Feddygfa Ganolog.

Meddai’r arlunydd Paul Sheppard (Walls by Paul), ‘Dyma’r pedwerydd i mi ei beintio yn y gyfres hon. Rwyf wedi dysgu cymaint am yr holl gymeriadau ac mae pob un wedi bod yn rhyfeddol yn ei rinwedd ei hun. Roedd hi’n ddifyr dod i wybod am rôl Walter yn iechyd a lles Tredegar a’r DU.’

Dadorchuddiwyd Plac Glas ar 1 Rawlinson Terrace, Tredegar, y cartref lle treuliodd Walter y rhan fwyaf o’i fywyd priodasol gyda’i deulu. Dadorchuddiwyd y plac gan Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, a Hen Wyresau Walter, Julie Watkin ac Alyson Nutland.

Ganed Walter yn Rhymni ac roedd ganddo frawd iau. Yn drist, bu farw ei rieni’n ifanc, gan adael Walter a’i frawd yng ngofal Bwrdd y Gwarcheidwaid yn Wyrcws Bedwellte. Yma datblygodd ei gariad at lyfrau, yr oedd yn aml yn cyfeirio atynt fel ei ffrind gorau, a chafodd ei ddysgu i ‘wneud popeth yn dda’, mantra a arhosodd gydag ef trwy gydol ei fywyd.

Ar ôl gadael y wyrcws, symudodd i mewn i lety a daeth yn löwr ym Mhwll Rhif 1 Pochin. Priododd Walter â Mary Elizabeth Morgan ym 1898 ac fe gafodd y cwpl 3 merch a mab. Roedd y teulu’n addoli yn Eglwys Bresbyteraidd Park Place lle’r oedd Walter yn Ddiacon ac yn Athro Ysgol Sul.

Ym 1908 fe’i hetholwyd i Fwrdd Gwarcheidwaid Bedwellte, y sefydliad a fu’n gyfrifol am ei ofal cynnar yn y wyrcws. Roedd Walter yn aelod cynnar o’r Blaid Lafur Annibynnol, gan ymuno i ddechrau ac yna dod yn un o aelodau cychwynnol cangen Tredegar ym 1911. Roedd Walter hefyd yn fentor i’r Aneurin Bevan ifanc. Ym 1920 fe wnaeth Walter a’i ffrindiau, gan gynnwys Aneurin Bevan ifanc, ffurfio Query Club, a oedd yn gymdeithas ddadlau sosialaidd.

Ond yn fwy na dim mae’n cael ei gofio fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar. Fe’i penodwyd ym 1915 a thros y 18 mlynedd nesaf tyfodd y Gymdeithas dan ei stiwardiaeth i fod yn un o’r cymdeithasau gorau, gan ddenu aelodaeth o ardal ehangach. Roedd Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar yn darparu gwasanaethau meddygol ar gyfer 20,000 o bobl leol, oddeutu 95% o boblogaeth y dref. Roedd y gymdeithas yn gweithredu meddygfeydd a oedd yn cyflogi 5 meddyg, 2 ddeintydd, nyrsys a staff cymorth. 

Pan fu farw dywedodd yr AS lleol fod Walter ‘yn ymgorffori gwirionedd ac uniondeb a phopeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar.'

Meddai’r Cyngh. John Morgan, yr Aelod Cabinet dros Le ac Adfywio: ‘Roedd Walter Conway yn arwr yn y dref hon. Mae cof annwyl amdano hyd heddiw. Pan sefydlodd Bevan y rhaglen adeiladu tai fwyaf yn y DU yn dilyn yr 2il Ryfel Byd, fe wnaeth y cyngor lleol enwi stryd er anrhydedd iddo – Walter Conway Avenue. Yn fwy diweddar mae Cyngor Blaenau Gwent wedi gosod mainc â cherfluniau yn y cylch sy’n edrych dros swyddfeydd y Gymdeithas Cymorth Meddygol ond yn awr rydym yn coffau ei le mewn hanes yn ffurfiol gyda’r Plac Glas hwn a murlun trawiadol yng nghanol y dref. Gobeithio bod hyn nid dim ond yn coffau’r hyn a gyflawnodd ond hefyd yn annog cenedlaethau newydd i archwilio’r hyn a gyflawnodd ac yn rhoi ysbrydoliaeth iddynt i ddilyn eu breuddwydion. Yn olaf, hoffwn ddiolch i Paul am y murlun anhygoel y mae wedi’i greu yng nghanol y dref ac i Marcus a Hayley, am ganiatáu i ni osod y Plac Glas hwn ar eu cartref’.

Meddai Julie Watkin ac Alyson Nutland, ei Hen Wyresau: ‘Ac yntau wedi colli ei rieni pan oedd yn fachgen bach, cafodd Walter ei leoli yn Wyrcws Bedwellte lle datblygodd ei gariad at lyfrau a’i awch am wybodaeth. Yn ddiweddarach yn ei oes byddai’n dal i gyfeirio ato’i hun fel bachgen y wyrcws. Fel ysgrifennydd Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar roedd yn “ymroddedig i waith y Gymdeithas” ac yn “ymgorffori popeth oedd yn dda ym mywyd Tredegar”. Mae Cymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar bellach yn cael ei chydnabod yn ffynhonnell llawer o’r syniadau newydd a radical ar gyfer gofal iechyd cyffredinol a fyddai’n esblygu’n Wasanaeth Iechyd Gwladol ryw bymtheng mlynedd ar ôl ei farwolaeth anhymig.’

Meddai Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Miles: ‘Mae’n fraint nodi’r cyfraniad a wnaeth Walter Conway i iechyd y cyhoedd yn Nhredegar a’i rôl yn hanes ein GIG. Mae’n dda gennyf weld ei gyflawniadau’n cael eu dathlu heddiw. Roedd yn weinyddwr iechyd eithriadol a helpodd Gymdeithas Cymorth Meddygol Tredegar i lwyddo, gan ysbrydoli Bevan a chenedlaethau aneirif wedi hynny.’

Cefnogwyd y murlun a’r plac gan Gronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU. Dylai ymwelwyr â Thredegar ymweld ag Amgueddfa Tredegar yn Llyfrgell Tredegar a Chanolfan Dreftadaeth Cymdeithas Cymorth Meddygol Gweithwyr Tredegar hefyd. Mae’r ddwy wedi’u lleoli yn Y Cylch, calon treftadaeth y dref.

 

 
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Gorwyresau Walter, Julie Watkin ac Alyson Nutland yn dadorchuddio’r Plac Glas. Plac glas yn cael ei arddangos yn 1 Rawlinson Terrace, Tredegar lle’r oedd Walter yn byw.
 

 
O'r chwith i'r dde: Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Blaenau Gwent, Y Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd – Cynghorydd Blaenau Gwent, Y Cynghorydd Jacqueline Thomas, Cynghorydd Blaenau Gwent, Chris Smith, Aelod Llywyddol a Hyrwyddwr Cydraddoldeb a Chynghorydd Blaenau Gwent, Tommy Smith.   Walter Conway - Ffotograff o Orwyresau Walter, Julie Watkin ac Allison Nutland gyda’r Plac Glas.


 
Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda’r Cynghorydd John C Morgan o Flaenau Gwent, Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd o flaen murlun Walter Conway yng Nghanolfan Siopa Gwent, Tredegar. Murlun wedi'i baentio gan Paul Shepherd (Muriau gan Paul).   O’r chwith i’r dde: Prif Ferch Ysgol Gynradd Georgetown, Prif Fachgen a Phrif Ferch Ysgol Gyfun Tredegar, Prif Fachgen Ysgol Gynradd Georgetown, Jeremy Miles, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol a’r Cynghorydd John C Morgan Aelod Cabinet - Lleoedd ac Adfywio a Datblygu Economaidd.