Mae disgyblion yn Ysgol Gynradd Coed-y-Garn, Blaenau Gwent, yn angerddol am les draenogod – ac fe wnaethant groesawu Nick Smith, eu Haelod Seneddol lleol, i’r ysgol yn ddiweddar i weld peth o’u gwaith rhagorol.
Roedd y disgyblion wedi rhannu nodiadau, posteri a thaflenni gyda Mr Smith, cynrychiolydd Blaenau Gwent yn Senedd y Deyrnas Unedig, pan glywsant y byddai dadl yn y Senedd yn galw am well diogeliad i ddraenogod yn dilyn deiseb ar-lein lwyddiannus.
Croesawodd y plant ef i’r ysgol ddydd Gwener 5 Tachwedd gan gadw pellter cymdeithasol oherwydd mesurau diogelwch Covid, fel y gallent rannu eu profiadau a’r gwaith a wnaethpwyd hyd yma yn eu gwaith i gefnogi draenogod.
Mae nifer y draenogod yng Nghymru a gweddill Prydain yn gostwng. Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Coed-y-Garn yn codi ymwybyddiaeth am sefyllfa draenogod a hefyd yn gweithio’n galed i roi amgylchedd diogel a chroesawgar i fywyd gwyllt lleol, wrth iddynt weithio tuag at achrediad i ddod yn Gampws Cyfeillgar i Ddraenogod.
Mae’r ysgol yn un o wyth ym Mlaenau Gwent sy’n cymryd rhan yn y prosiect peilot cenedlaethol o 20 ysgol a drefnir gan Gymdeithas Brydeinig Cadwraeth Draenogod, sy’n anelu i ddarparu cynefin diogel ar gyfer draenogod mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion ar draws Prydain.
Dywedodd Lauren Cairns, pennaeth yr ysgol:
“Mae llais y disgyblion yn gryfder yng Nghoed-y-Garn ac fe wnaeth y dirywiad yn nifer y draenogod ennyn diddordeb a chymell llawer ohonynt fel iddynt ofyn am gael cymryd rhan.
“Rwy’n falch tu hwnt fod ein plant yn dangos eu bod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus ac yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog drwy ddangos eu bod yn malio am y byd o’u hamgylch, ac yn cydweithio i ddatrys problemau – gan wneud eu gorau bob amser.”
Dywedodd Nick Smith AS:
“Mae’n wych gweld pobl ifanc yn dangos cymaint o angerdd am ddiogelu bywyd gwyllt. Mae’r holl waith a wnaed ar y prosiect hwn yn ysgol Coed-y-Garn yn rhagorol. Dylem i gyd rannu’r pryderon y soniodd y disgyblion amdanynt heddiw. Mae draenogod yn un o hoff anifeiliaid Prydain ac mae eu niferoedd yn gostwng yn gyflym.
“Mae lles anifeiliaid yn fater a ddatganolwyd ac rwy’n falch i Lywodraeth Cymru ailddatgan ei ymrwymiad yn ddiweddar i ddiogelu draenogod. Dylai Llywodraeth y Deyrnas Unedig hefyd fod yn gwneud popeth a all nid yn unig i helpu atal y dirywiad mewn nifer draenogod ond ei wrthwneud drwy osod targedau uchelgeisiol ar gyfer bioamrywiaeth a mynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd.”
Fel Ysgol sy’n Parchu Hawliau, mae staff yn credu fod dysgu awyr agored yn cefnogi Erthygl 28: ‘Mae gan blant hawl i addysg ansawdd da’; a hefyd Erthygl 29: ‘Dylai addysg helpu plant i ddefnyddio a datblygu eu talentau a’u galluoedd.”
Dylai hefyd eu helpu i ddysgu i fyw’n heddychlon, diogelu’r amgylchedd a pharchu pobl eraill.
Dywedodd y Cyng Joanne Collins, Aelod Gweithredol dros Addysg ar Gyngor Blaenau Gwent:
“Mae ein disgyblion ar draws Blaenau Gwent yn dangos gwir angerdd dros faterion amgylcheddol a bioamrywiaeth, sydd yn wych gan mai’r bobl ifanc rydym eu gwir angen i gymryd rhan yn y gwaith hwn. Rydym mor falch o’r disgyblion yng Nghoed-y-Garn am eu gwaith ar y prosiect, maent i gyd mor frwdfrydig ac rwy’n siŵr y bydd draenogod a bywyd gwyllt arall yn ddiolchgar iawn am eu hymdrechion. Da iawn bawb.”
Mae Coed-y-Garn hefyd wedi cymryd nifer fawr o fesurau i gefnogi’r bywyd gwyllt yn nhiroedd yr ysgol. Yn ogystal â chynnal Diwrnod Helpu Draenog, fe wnaethant gymryd rhan yn yr Wythnos Ymwybyddiaeth Draenogod ym mis Mai, cynnal helfeydd sbwriel, plannu coed cyfeillgar i ddraenogod a chynnal arolygon o ôl-troed draenogod a chamera bywyd gwyllt.
Ar draws yr ysgol, mae plant wedi defnyddio eu sgiliau i ymchwilio gwybodaeth am ddraenogod ac wedi datblygu ffyrdd i godi ymwybyddiaeth o helpu i gadw draenogod yn ddiogel, gan rannu’r wybodaeth hon yn ehangach gyda’r gymuned. Pan ailddatblygwyd pwll dŵr yr ysgol yn haf 2021, fe wnaeth y plant helpu i gynllunio’r ardal yn cynnwys llethr ar gyfer anifeiliaid, tebyg i ddraenogod, i gael llwybr dianc diogel.
Yn ystod yr ymweliad rhannodd grŵp o Lysgenhadon Draenogod Coed-y-Garn eu cynnydd gyda Nick Smith, gan ddangos eu creadigrwydd a’u hyder. Buont yn siarad am eu profiadau a’u cynlluniau ar gyfer cadwraeth bywyd gwyllt yn yr ysgol, yn cynnwys sut mae’r ysgol yn rheoli gofodau gwyrdd, gan sicrhau fod yr ysgol yn creu’r gynefin gywir yn ogystal â goroesiad draenogod, er enghraifft strimio, plannu’r math cywir o blanhigion a gosod tai clêr.
Mae mwy o wybodaeth am y Cynllun Campws Cyfeillgar i Ddraenogod ar gael yn https://www.hedgehogstreet.org/ a https://www.britishhedgehogs.org.uk/