Mae Ymddiriedolaeth sy'n rhedeg gwasanaethau hamdden a diwylliannol ym Mlaenau Gwent yn gwneud cyfraniad sylweddol at ddatblygu cymunedol, addysg a mentrau iechyd a lles.
Daeth adolygiad annibynnol i'r casgliad fod Aneurin Leisure Trust yn sefydliad sy'n cael ei redeg yn dda gyda staff medrus iawn ac atyniadau o safon, ac mae’n cydweithio’n gryf â'r Cyngor ac yn cyd-fynd â gwerthoedd cymdeithasol a chymunedol y Cyngor.
Ystyriodd a chytunodd y Cyngor Llawn ar yr argymhellion adolygu.
Asesodd yr adolygiad weithrediadau, cynaliadwyedd ariannol, ac aliniad yr Ymddiriedolaeth â nodau strategol y Cyngor. Daeth i'r casgliad bod yr Ymddiriedolaeth yn parhau i fod yn Ymddiriedolaeth, yn bodloni dangosyddion perfformiad allweddol yn gyson, yn perfformio'n dda yn erbyn safonau llyfrgelloedd cenedlaethol, ac yn cyflawni ei rhwymedigaethau ariannu. Nododd hefyd gyfleoedd ar gyfer cynhyrchu incwm, ailgynllunio gwasanaethau, a phartneriaethau cydweithredol i gryfhau sefyllfa ariannol yr Ymddiriedolaeth a gwella gwasanaethau.
Mae'r adroddiad yn argymell cadw’r model Ymddiriedolaeth a chynyddu gwaith partneriaeth a buddsoddiad mewn cyfleusterau.
Dywedodd y Cynghorydd Helen Cunningham, y Dirprwy Arweinydd a’r Aelod Cabinet dros Oedolion a Chymunedau:
"Trwy gynnal y model Ymddiriedolaeth, gallwn sicrhau cynaliadwyedd gwasanaethau hamdden a diwylliannol am flynyddoedd i ddod a chefnogi ein blaenoriaethau ar gyfer twf economaidd, atal ac ymyrryd yn gynnar, a chymunedau.
"Mae ein perthynas â'r Ymddiriedolaeth yn hanfodol i wella iechyd a lles trigolion Blaenau Gwent. Mae gweithio gyda'r Ymddiriedolaeth ar wella lles pobl o bob oed yn brif flaenoriaeth i'r Cyngor ac yn unol â'n penderfyniad i fabwysiadu Egwyddorion Marmot a Bargen newydd Blaenau Gwent.
"Drwy Fargen Blaenau Gwent byddwn yn datblygu ffordd newydd o weithio gyda'n cymunedau; contract cymdeithasol rhwng y cyngor, trigolion a phartneriaid. Mae'n nodi gweledigaeth gyffredin ar gyfer bwrdeistref decach, iachach a mwy gwydn - un lle mae anghydraddoldebau iechyd yn cael eu datrys a phob preswylydd yn cael ei rymuso i ffynnu.”
Ychwanegodd Phill Sykes, Cyfarwyddwr Gweithrediadau Aneurin Leisure Trust:
"Mae'r Ymddiriedolaeth yn hapus gyda chanlyniad yr adroddiad ac wedi gweithio'n agos gyda'r holl bartïon i sicrhau bod y canfyddiadau terfynol yn gywir er mwyn siapio dyfodol gwasanaethau hamdden ar draws Blaenau Gwent gystal â phosib.
"Mae'r adroddiad yn adlewyrchiad cadarnhaol o’r Ymddiriedolaeth, gyda chydnabyddiaeth benodol o arbenigedd ac angerdd ein tîm dros ddarparu gwasanaethau o ansawdd uchel.
"Wrth symud ymlaen, byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda Chyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i ddatblygu cynllun busnes newydd yn seiliedig ar egwyddorion Marmot a chefnogi 'Bargen' Blaenau Gwent tra'n parhau i wella bywyd cymunedol i drigolion Blaenau Gwent ar draws holl safleoedd yr Ymddiriedolaeth."
Mae'r Cyngor wrthi’n ymgysylltu â’r cyhoedd ar Fargen Blaenau Gwent. Mae'r ymgynghoriad yn gofyn i bobl beth sy'n dda am eu cymuned, sut y gellid ei gwella a sut y bydden nhw’n barod i chwarae rhan. Mae'r arolwg yn rhedeg tan 31 Rhagfyr.
Gallwch gymryd rhan yma.
