Adnewyddu ac atgyweirio ardal chwarae yng Nglyncoed, Glynebwy

Mae tîm Strydlun y Cyngor wedi bod yn gweithio gyda'r contractwyr arbenigol Touchline ar adnewyddu ac atgyweirio ardal y plant yng Nglyncoed, Glynebwy sydd bellach ar agor i'r cyhoedd ei mwynhau.

Mae'r ardal chwarae bellach yn cynnwys cynlluniau llawr arloesol, fel nadroedd ac ysgolion, ynghyd â gwelliannau i'r offer presennol. Mae'r ardal chwaraeon a ddefnyddir ar gyfer pêl-droed a phêl-rwyd hefyd wedi’i gwella'n sylweddol. Mae'r lluniau ‘cyn ac ar ôl’ isod yn dangos y llinellau clir a’r lliwiau llachar sy’n dynodi’r arwynebau a’r mannau chwarae.

Sicrhawyd cyfanswm o £32,000 drwy'r Gronfa Ffyniant Gyffredin ar gyfer yr adnewyddu.

Dywedodd y Dirprwy Arweinydd a'r Aelod Cabinet dros Leoedd a'r Amgylchedd, y Cynghorydd Helen Cunningham: "Mae ardaloedd chwarae awyr agored yn bwysig iawn i blant a theuluoedd lleol. Rydym yn falch o gyhoeddi bod ardal chwarae Glyncoed yn ailagor mewn pryd ar gyfer dechrau'r gwyliau ysgol, yn dilyn gwaith atgyweirio ac adnewyddu yr oedd mawr ei angen." 

Lluniau ‘cyn ac ar ôl’ o'r ardal chwaraeon.

 

Yr ardal chwarae sydd newydd ei hadnewyddu a'i hatgyweirio yng Nglyncoed.