Mae ein tîm Yswiriant yn cydlynu trin pob hawliad yswiriant a wneir gan neu yn erbyn y Cyngor. Gallwch wneud hawliad am iawndal os cawsoch eich anafu neu os cafodd eich eiddo ei niweidio ac y credwch y bu’r Cyngor yn esgeulus.
Nid yw gwneud hawliad yn golygu y cewch iawndal oherwydd nid yw’r Cyngor ar fai bob amser. Weithiau gall digwyddiadau anffodus ddigwydd, ond nis oes neb ar fai. Bydd y gyfraith yn penderfynu os dylech gael iawndal am eich colled, difrod neu anaf.
Sut i wneud yr Hawliad?
Cam 1: mae’n rhaid i chi roi adroddiad i Priffyrdd am y digwyddiad
Cam 2: gallwch wedyn wneud yr hawliad
Bydd angen i chi wneud nodiadau manwl o’r dilynol os yn berthnasol er mwyn llenwi y ffurflen hawliad:
- Crynodeb o’r ffeithiau yr ydych yn seilio’r hawliad arno
- Cofnodi amser a dyddiad y digwyddiad
- Nodi amodau’r tywydd
- Enw’r ffordd a disgrifiad manwl o’r lleoliad yn cynnwys tirnodau a nodweddion unigryw
- Cadw unrhyw dderbynebau ar gyfer colledion yn deillio o’r digwyddiad
- Nodi unrhyw ymweliadau yn y gorffennol neu’r dyfodol i ysbyty neu feddygfa teulu ar gyfer hawliadau anaf personol
- Cofnodi manylion llawn unrhyw dystion
- Rhif digwyddiad heddlu
- Ffotograffau – gweler y canllawiau
Sut mae gwneud hawliad?
Ffyrdd eraill i hawlio
Gwneud hawliad yn eich Hyb Lleol.
Beth ddylwn i ddisgwyl?
- Mae eich ffurflen hawliad wedi ei llenwi yn ein cyrraedd ni
- Caiff eich hawliad ei baratoi a’i drosglwyddo i Gallagher Bassett, ein Trefnwyr Hawliadau
- Byddwch yn derbyn cydnabyddiaeth o’ch hawliad o fewn 21 diwrnod
- Byddwch yn cael amserlen i gyrraedd penderfyniad
- Byddwch yn derbyn rhif cyfeirnod a manylion cyswllt ar gyfer eich Trefnydd Hawliad
- Gall Gallagher Bassett gysylltu â chi i gael mwy o wybodaeth
- Byddwch yn derbyn eich penderfyniad yn ysgrifenedig
- Fel arfer gwneir penderfyniad mewn 90 diwrnod ac mae’n dechrau o’r diwrnod cydnabyddiaeth
Sut mae rhoi tystiolaeth ffotograffig?
Bydd angen i chi lanlwytho neu anfon eich ffotograffau gyda’r ffurflen gais. Gweler y cyngor dilynol er mwyn atal oedi gyda’ch hawliad:
- Mae’n rhaid i ffotograffau ddangos y diffyg yn cynnwys yr ardal yn ymyl ac unrhyw dirnodau unigryw
- Os yw’n ddiogel gwneud hynny, tynnwch ffotograff o’r diffyg yr honnir ei fod yn gyfrifol am y digwyddiad
- Os yw’n ddiogel gwneud hynny, gallwch ddangos maint y diffyg drwy roi darn o arian yn ei ymyl
- Ffotograffau o’r difrod
- Y dyddiad y tynnwy d y ffotograff neu ffotograffau gyda dyddiadau
- Gallwch ddal anfon ffotograff os yw’r diffyg eisoes wedi ei atgyweirio, bydd hyn yn ein helpu i ddynodi’r union leoliad
Twyll
Gellir trosglwyddo unrhyw hawliad y canfyddir ei fod wedi ei nodi neu ei chwyddo’n dwyllodrus ar unrhyw adeg yn yr hawliad i’r Heddlu neu Wasanaeth Erlyn y Galon a gall fod yn destun erlyniad troseddol.