Polisi Derbyn 2026/27 ac Ymgynghoriad Adolygu Dalgylch

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymgynghori ar y trefniadau derbyn arfaethedig ar gyfer sesiwn academaidd 2026/27. Mae’r cyngor hefyd yn cynnig cyflwyno dalgylch ar gyfer Ysgol Sefydledig Brynmawr a phennu’r dalgylchoedd ar gyfer Ysgol Gymraeg Tredegar ac Ysgol Gymraeg Bro Helyg i’w gweithredu o sesiwn academaidd 2026/27 ymlaen.

Bydd yr ymgynghoriad statudol yn rhedeg o hanner dydd 4 Chwefror 2025 tan 5pm ar 21 Chwefror 2025.

Mae copi o’r ddwy ddogfen ar gael yn: 

Ymgynhoriad adolygu dalgylch 2026/27

Polisi derbyn i ysgolion ar gyfer addysg fethrin a statudol 2026/27

Yn dilyn hyn, bydd y cyngor wedyn yn casglu, adolygu a chrynhoi’r holl adborth. Bydd yr adroddiad hwn wedyn yn cael ei gyflwyno i’r cabinet ym mis Ebrill 2025 i’w ystyried a bydd penderfyniad yn cael ei wneud os penderfynir gweithredu’r cynnig. Bydd yr adroddiad ar gael i bob ymgynghorai ei weld.

Gallwch roi eich barn fel a ganlyn:

· Trwy e-bost i schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk

· Trwy gwblhau arolwg Snap: https://online1.snapsurveys.com/mar1oq

Y dyddiad cau ar gyfer pob ymateb yw dydd Gwener, 21 Chwefror 2025, am 5pm.

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynnig, cysylltwch â’r tîm derbyn drwy e-bostio schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk