Mae Cyngor Blaenau Gwent yn ymgynghori ar gyflwyno dalgylch ar gyfer Ysgol Sefydledig Bryn-mawr a phennu’r dalgylchoedd ar gyfer Ysgol Gymraeg Tredegar ac Ysgol Gymraeg Bro Helyg.
Bydd yr ymgynghoriad statudol yn rhedeg o hanner dydd ar 12 Rhagfyr 2025 tan 5pm ar 5 Lonawr 2026.
Cynhelir sesiwn galw heibio yn y Gwaithaur, Lôn y Felin, Glynebwy, Blaenau Gwent, NP23 6GR ddydd Mercher 17 Rhagfyr 2025. Bydd staff ar gael rhwng 4pm a 6pm a byddant yn gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.
Mae copi o'r ddogfen i'w weld isod.
Yn dilyn hyn, bydd y cyngor yn casglu, adolygu a chrynhoi’r holl adborth. Yna bydd yr adroddiad hwn yn cael ei gyflwyno i’r cabinet ym mis Ebrill 2025 a’i ystyried a bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch a ddylid gweithredu’r cynnig. Bydd yr adroddiad ar gael i bob ymgynghorai ei weld.
Gallwch gyflwyno eich barn
• drwy e-bost i schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk neu
• drwy gwblhau arolwg Snap: https://online1.snapsurveys.com/2ht0dv
Os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â’r tîm Gweithrediadau Ysgol gan ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod. Y dyddiad cau ar gyfer ymatebion i’r ymgynghoriad yw 5pm ar 5 Lonawr 2026.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau am y cynnig, cysylltwch â’r Tîm Derbyniadau drwy anfon e-bost at schooladmissions@blaenau-gwent.gov.uk