Sefydlu Maer Ieuenctid - Rhagfyr 2021
Cynhaliwyd Digwyddiad Sefydlu Maer Ieuenctid Blaenau Gwent am 6pm ar 6 Rhagfyr 2021 yn Nhŷ Bedwellte.
Roedd y digwyddiad yn gyfle i bobl ifanc ddathlu popeth a gyflawnwyd dros y flwyddyn ddiwethaf.
Dathlodd Darcey Howell, sy’n gadael rôl Maer Ieuenctid, ei llwyddiannau dros y flwyddyn ddiwethaf yn ogystal â rhannu ei thaith democratiaeth oedd yn wir yn ysbrydoliaeth.
Daeth Chloe Lines yn Faer Ieuenctid newydd Blaenau Gwent a chyhoeddodd mai ei blaenoriaeth fydd atal bwlio, gan godi ymwybyddiaeth o’r effeithiau a’r gefnogaeth sydd ar gael. Daeth Mara Moruz yn Ddirprwy Faer Ieuenctid newydd, a nododd ei blaenoriaeth am newid hinsawdd a’r camau y byddai’n eu cymryd dros y ddwy flynedd nesaf.
Cefnogwyd tyngu’r llwon gan y Cyng. Moore a gymerodd ran yn y sefydlu am y drydedd blwyddyn yn olynol, ac sy’n gefnogwr ymroddedig i bobl ifanc a’r Fforwm Ieuenctid. Ymunwyd â ni hefyd gan y gwestai arbennig Gracie-Jayne Fitzgerald a roddodd araith dwymgalon o ddiolch gan iddi gael ei hysbrydoli’n wirioneddol, gan fod yn berson ifanc ei hun. Canodd Gracie yn hyfryd i ddod â’r noswaith i ben ac i ddathlu’r digwyddiad.
Dywedodd y Cyng Moore “Roedd hon yn noswaith i’w chofio ac edrychwn ymlaen at barhau i ddathlu llwyddiannau’r Fforwm Ieuenctid.”
Darcey Howell, Maer Ieuenctid Tachwedd 2020 – Tachwedd 2021
Mae Darcey Howell o Dredegar yn angerddol am weithgaredd corfforol a’r cysylltiadau rhwng hynny â iechyd meddwl a llesiant. Gwnaeth Darcey hyn yn flaenoriaeth iddi pan oedd yn Faer Ieuenctid.
Dros y flwyddyn ddiwethaf cyflwynodd Darcey ddau gais am gyllid, un i brynu offer i sefydlu Academi Ieuenctid mewn campfa leol ac un arall i’w chlwb nofio sicrhau cyllid ar gyfer blociau nofio a hyfforddiant i bobl ifanc ddod yn hyfforddwyr eu hunain.
Ym mis Medi mynychodd y Fforwm Ieuenctid sesiwn yn y gampfa i lansio’r Academi Ieuenctid ac ers hynny mae 16 o bobl ifanc wedi ymuno a chyflwynwyd 20 sesiwn hyd yma.
Os hoffech fod yn rhan o’r academi ieuenctid gallwch ymuno drwy Instagram @athlecticfitnessuk neu gallwch ffonio Mike yn uniongyrchol ar 07792143560. Rwy’n sicr y byddwch yn cytuno y bydd cyfraniad Darcey yn cefnogi pobl ifanc yn awr ond hefyd mewn blynyddoedd i ddod!