Lleoliadau Gwaith â Chymorth
Mae Rhaglen Quickstart BG yn cynnig lleoliadau gwaith 6 mis ar dâl ym Mlaenau Gwent i unrhyw un 16+ oed sy’n ddiwaith neu’n economaidd anweithgar er mwyn ennill profiad gwerthfawr a gwella sgiliau cyflogadwyedd i gynyddu eu cyfle o ddod o hyd i waith llawn-amser unwaith y daeth y lleoliad i ben.
Mae llu o gyflogwyr ym Mlaenau Gwent yn cynnig lleoliadau ystyrlon Quickstart BG mewn amrywiaeth o sectorau i weddu diddordebau unigol. Caiff y sawl sy’n cymryd rhan eu cefnogi ar hyd eu lleoliad i ddatblygu sgiliau y gellir eu trosglwyddo, dilyn hyfforddiant perthnasol a chynyddu hyder i sicrhau cyflogaeth hirdymor yn y dyfodol.
Cyn gwneud cais am leoliad Quickstart BG, caiff ymgeiswyr cymwys eu cyfeirio gan eu Hyfforddwr Gwaith DWP i fynychu cwrs cyn-cyflogaeth byr i ddatblygu dealltwriaeth o ddisgwyliadau cyflogwyr, cael cefnogaeth i ddiweddaru CV a datblygu technegau cyfweld.
Bydd lleoliadau:
• Am 6 mis
• O leiaf 25 awr yr wythnos
• Yn derbyn y Cyflog Byw Cenedlaethol
Pwy all wneud cais:
• Pobl 16 oed a throsodd
• Pobl ddi-waith ac economaidd anweithgar
• Preswylwyr Blaenau Gwent
Os credech y gallech fod yn gymwys i wneud cais am Leoliad Gwaith Quickstart BG ond nad oes gennych gysylltiad uniongyrchol gyda Hyfforddydd Gwaith DWP anfonwch e-bost at y dilynol i gofrestru eich diddordeb os gwelwch yn dda Blaenaugwent.eateam@dwp.gov.uk
Ar gyfer Busnesau Blaenau Gwent a hoffai gynnig lleoliad Quickstart BG cysylltwch â Lauren Holmes, Swyddog Cyflogadwyedd, Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i gael mwy o fanylion yn:
quickstartbg@blaenau-gwent.gov.uk
Ariennir y prosiect gan Lywodraeth y DU trwy Gronfa Ffyniant Gyffredin y DU
Mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y DU yn brif biler agenda Hybu Ffyniant Bro llywodraeth y DU ac mae’n darparu £2.6 biliwn o gyllid ar gyfer ei fuddsoddi’n lleol erbyn Mawrth 2025. Nod y Gronfa yw gwella balchder mewn lle a chynyddu cyfleoedd bywyd ar draws y DU, buddsoddi mewn cymunedau a lle, gan gynorthwyo busnesau lleol, a phobl a sgiliau. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i https://www.gov.uk/government/publications/uk-shared-prosperity-fund-prospectus.cy