Mae Gwasanaeth iechyd yr Amgylchedd yn cyflawni arolygon iechyd a diogelwch i sicrhau bod cyflogwyr yn ymwybodol o’u dyletswyddau cyfreithiol ac asesu cydymffurfiaeth gyda’r Ddeddf iechyd a Diogelwch yn y Gwaith 1974 a rheoliadau cysylltiedig.
Rydym yn arolygu safleoedd megis siopau, warysau, llefydd a ddefnyddir ar gyfer gweithgareddau hamdden a safleoedd eraill heb fod yn ddiwydiannol. Pe byddech yn hoffi gwneud cwyn neu os ydych yn pryderu ynghylch iechyd a diogelwch ar safle, defnyddiwch y cyswllt hwn, os gwelwch yn dda, i adael i ni wybod.
Arolygir safleoedd diwydiannol mwy o faint, megis ffatrïoedd gan Iechyd a Diogelwch yr Awdurdod Gweithredol, fel y mae gweithgareddau megis gwaith adeiladu a dymchwel.
Adrodd ar bryderon ynghylch Iechyd a Diogelwch ar safle.
Arolygir safleoedd ar amlder a benderfynir gan y peryglon sy’n gysylltiedig â’r gweithle hwnnw a pha mor dda y rheolir y peryglon. Bob blwyddyn fe ddatblygwn gynllun gwaith sy’n adlewyrchu materion a nodwyd fel rhai yn corffori risg Iechyd a Diogelwch. Gellir gweld copi o’r cynllun gwaith cyfredol ar :Cyswllt i gynllun gwaith.
Beth i’w ddisgwyl yn ystod yr arolwg
Gwneir arolygon fel arfer yn ddirybudd gyda rheolwr y busnes. Gallai’r arolygwr hefyd ddymuno siarad â chyflogeion, cynrychiolwyr iechyd a diogelwch, cynrychiolwyr undebau llafur a phartïon eraill â diddordeb.
Yn ystod yr arolwg bydd y swyddog yn gofyn am archwilio’r gwaith papur megis:
- Polisi iechyd a diogelwch y cwmni
- Asesiad Risg
- RhSBI(rheoli sylweddau sy’n beryglus i iechyd)
- Llyfr / cofnodion damweiniau
- Cofnodion hyfforddiant
- Cofnodion cynnal a chadw, er enghraifft, y gweithle a chyfarpar gwaith
- Adroddiadau arolygon mewnol
- Tystysgrifau, er enghraifft, gosodiadau trydanol ac archwiliadau o beiriannau nwy
- Gweithdrefnau brys
Gwneir arolwg ffisegol hefyd o’r gweithle i benderfynu:-
- Cyflwr/glanweithdra’r safle megis strwythur allanol a muriau mewnol, lloriau, nenfydau, ffenestri, llwybrau traffig, gosodiadau a gosodion
- Darparu cyfleusterau lles megis toiledau, cyfleusterau golchi/sychu, dŵr yfed, ystafelloedd gorffwys a lle i storio dillad
- Cyflwr yr ardaloedd tu allan megis meysydd parcio, llwybrau cerddwyr
- Cysur yn y gweithle megis gwres, awyru, goleuo, gweithfannau, maint ystafelloedd a gofod
- Cyflwr a lleoliad cyfarpar gwaith
Yn dilyn yr arolwg
Ar ddiwedd yr arolwg bydd y swyddog yn eich cynghori chi
ynghylch ei gasgliadau/ei chasgliadau a bydd y swyddog yn cyflwyno adroddiad wedi’r ymweliad yn amlinellu’r gofynion angenrheidiol i gydymffurfio â’r ddeddfwriaeth.
Mewn rhai achosion, gallai fod yn angenrheidiol cymryd camau ffurfiol yn syth os gwêl y swyddog unrhyw beth sy’n golygu risg ddifrifol i iechyd a / neu ddiogelwch.
Gellid cyflwyno hysbysiadau gwelliant lle mae’r swyddog o’r farn bod person (au) yn torri gofynion cyfreithiol. Bydd y rhybudd yn amlinellu beth sydd o’i le ac yn gosod amserlen ar gyfer cydymffurfio.
Gellid cyflwyno hysbysiadau gwahardd lle mae risg ddifrifol o anafiadau personol. Mae’r hysbysiad yn cyfeirio person i beidio â chyflawni gweithgareddau penodol.
Mae gwahardd hefyd yn ddewis lle mae’r gyfraith yn cael ei hanwybyddu’n agored, iechyd a diogelwch yn cael eu diystyru’n ddi-hid, tor-amodau cyson neu fethiant i gydymffurfio â hysbysiadau.
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Commercial Team
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk