Cynllun Trwyddedu Triniaethau Arbennig
Gwybodaeth am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig gorfodol newydd ar gyfer ymarferwyr a safleoedd
Mae’r cynllun yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy’n gyflawni unrhyw driniaeth arbennig (rhestr isod) ar rywun arall yng Nghymru gael eu trwyddedu (cyfeirir at y drwydded hon fel ‘trwydded triniaethau arbennig’). Mae’r cynllun hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i safleoedd/cerbydau y mae ymarferwyr triniaethau arbennig yn gweithredu ohonynt gael eu cymeradwyo (a elwir yn ‘dystysgrif safle cymeradwy’). Mae gan y cynllun hefyd ofynion/amodau gorfodol o fewn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.
Triniaethau arbennig a gwmpesir gan y cynllun trwyddedu newydd
Ar hyn o bryd, dim ond i rai triniaethau arbennig y mae’r cynllun newydd yn berthnasol. Diffinnir y rhain yn adran 57 o Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017, ac maent yn cynnwys y canlynol:
- Aciwbigo (gan gynnwys nodwyddo sych)
- Tyllu’r corff
- Electrolysis
- Tatwio (gan gynnwys colur lled-barhaol / microlafnu)
Amserlenni
Mae’r rheoliadau bellach wedi dod i rym.
Trwydded ymarferydd
Mae’r cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i ymarferwyr sy’n cyflawni unrhyw un o’r triniaethau arbennig rhagnodedig a restrir uchod ar rywun arall yng Nghymru gael trwydded. Bydd y drwydded yn nodi pa driniaeth neu driniaethau arbennig y mae’r ymarferydd wedi’i drwyddedu i’w cyflawni, yn ogystal â rhestru’r safle y mae’r ymarferydd yn gweithredu ohono. Rhaid i bob ymarferydd gael ei drwydded ei hun. Dim ond ar safleoedd / mewn cerbydau sydd wedi’u cymeradwyo y gall ymarferwyr trwyddedig weithredu.
Bydd yn drosedd i ymarferydd gyflawni triniaeth arbennig heb drwydded neu gyflawni unrhyw driniaethau o safleoedd neu gerbydau nad ydynt wedi’u cymeradwyo. Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â’r gofynion penodol a nodir yn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.
Mae’n ofynnol i ymarferwyr a gofrestrwyd o dan ofynion presennol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 wneud cais am eu trwydded triniaethau arbennig eu hunain ac, os oes angen, tystysgrif cymeradwyo safle/cerbyd.
Bydd gan y rhai sydd â chofrestriadau presennol 3 mis o’r dyddiad dod i rym (29 Tachwedd 2024) i wneud cais am drwydded (a, lle bo’n berthnasol, tystysgrif gymeradwyo) a byddant yn elwa ar drwydded drosiannol. Bydd y drwydded drosiannol hon yn caniatáu i ymarferwyr presennol barhau i roi triniaethau arbennig (yn unol â’u dogfen gofrestru gyfredol) tra bod y cais am drwydded newydd yn cael ei gyflwyno a’i brosesu.
Mae trwydded drosiannol wedi’i rhoi’n awtomatig i bob safle ac ymarferydd cofrestredig presennol, ac ni fydd yn ofynnol i chi wneud cais am hon.
Rhaid gwneud cais am drwydded o dan y cynllun newydd o fewn y cyfnod hwn o 3 mis (erbyn 28 Chwefror 2025).
Os ydych yn ymarferydd newydd, bydd gofyn i chi wneud cais am drwydded ymarferydd a’i chael cyn ymgymryd ag unrhyw driniaethau arbennig yng Nghymru.
Gwnewch gais am drwydded ymarferydd yma
Tystysgrif safle/cerbyd cymeradwy
Bydd y cynllun trwyddedu newydd yn ei gwneud yn ofynnol i bob safle neu gerbyd lle mae unrhyw un o’r triniaethau arbennig penodedig (aciwbigo, tyllu’r corff, electrolysis a/neu datwio) yn cael eu cyflawni gan ymarferwyr trwyddedig gael ei gymeradwyo. Bydd y dystysgrif gymeradwyo yn cael ei rhoi i’r sawl sy’n gyfrifol am y busnes ar safle (efallai mai’r perchennog, y rheolwr neu’r ymarferydd fydd hwn – nid oes angen iddo fod y sawl sy’n cyflawni’r triniaethau ei hun ac efallai nad ydyw’n cyflogi ymarferwyr yn uniongyrchol). Os oes gan ymarferydd drwydded triniaeth arbennig ond ei fod yn gyflogai, neu’n rhentu cadair/ystafell ym musnes rhywun arall, yna nid oes angen iddo feddu ar ei dystysgrif cymeradwyo safle/cerbyd ei hun ond rhaid iddo barhau i wneud yn siŵr mai dim ond o safle neu gerbyd cymeradwy y mae’n gweithredu.
Bydd yn drosedd i ymarferydd gyflawni triniaeth arbennig heb drwydded neu gyflawni unrhyw driniaethau o safleoedd neu gerbydau nad ydynt wedi’u cymeradwyo. Bydd hefyd yn drosedd i beidio â chydymffurfio â’r gofynion penodol a nodir yn y rheoliadau ar gyfer ymarferwyr a safleoedd/cerbydau.
Bydd yn ofynnol i safleoedd a gofrestrwyd o dan ofynion blaenorol Deddf Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1982 wneud cais am eu tystysgrif cymeradwyo safle eu hunain ac, os oes angen, trwydded triniaethau arbennig
Bydd gan y rhai sy’n gyfrifol am fusnes lle mae gan y safle gofrestriad presennol 3 mis o 29 Tachwedd 2024 i wneud cais am gymeradwyaeth a byddant yn elwa o drwydded drosiannol yn y cyfamser. Bydd y gymeradwyaeth drosiannol hon yn caniatáu i safleoedd presennol barhau i weithredu yn unol â’u dogfen gofrestru flaenorol tra bod y cais am drwydded newydd yn cael ei gyflwyno a’i brosesu (rhaid i ymarferwyr hefyd fod wedi’u trwyddedu neu fod wedi’u cynnwys o dan y trefniant trosiannol i gyflawni unrhyw driniaeth arbennig ar y safleoedd hyn).
Mae tystysgrif gymeradwyo drosiannol wedi’i rhoi’n awtomatig i bob safle ac ymarferydd cofrestredig presennol, ac ni fydd yn ofynnol i chi wneud cais am hon.
Os ydych yn sefydlu safle/cerbyd newydd lle rydych yn bwriadu darparu unrhyw driniaethau arbennig, bydd yn ofynnol i chi wneud cais am dystysgrif safle/cerbyd cymeradwy a’i chael cyn ymgymryd ag unrhyw driniaethau arbennig yng Nghymru ar y safle / yn y cerbyd.
Gwnewch gais am dystysgrif cymeradwyo safle/cerbyd yma
Ffioedd
Mae gwybodaeth am y strwythur ffioedd presennol ar gyfer y drefn newydd yma
Cronfa ddata genedlaethol o ymarferwyr trwyddedig a safleoedd/cerbydau cymeradwy
Mae’n ofynnol o dan y cynllun newydd i gronfa ddata o’r holl ymarferwyr trwyddedig a safleoedd/cerbydau cymeradwy fod ar gael i’r cyhoedd.
Mae'r gronfa ddata genedlaethol ar gael yma: Cofrestr Gyhoeddus Gweithdrefnau Arbennig Cymru. Ni fydd hon yn cynnwys manylion y rhai sydd wedi cael trwyddedau trosiannol / tystysgrifau cymeradwyo.
Os ydych am gadarnhau a yw ymarferydd a/neu eiddo/cerbyd yn gweithredu o dan y trefniadau trosiannol, yna bydd angen i chi gysylltu â’r cyngor yn yr ardal y mae’n gweithredu ynddi i gael rhagor o wybodaeth.
Rhagor o wybodaeth ac arweiniad
Mae rhagor o wybodaeth ac arweiniad ynghylch gofynion y cynllun ar gael yma:
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwriadu cyhoeddi canllawiau statudol ac anstatudol. Nid yw’r ddolen hon ar gael eto. Byddwn yn cyhoeddi’r dolenni unwaith y byddant ar gael ond, yn y cyfamser, yn eich cyfeirio at wefan Llywodraeth Cymru, lle gallwch chwilio am ddiweddariadau i’r cynllun: https://www.llyw.cymru/
Iechyd Cyhoeddus Cymru: https://icc.gig.cymru/gwasanaethau-a-thimau/ymwrthedd-a-heintiau-gwrthfiotig/atal-a-rheoli-heintiau/adnoddau-ar-gyfer-gweithwyr-gofal-iechyd-proffesiynol/gweithdrefnau-arbennig/
Cysylltwch â ni
Ar gyfer ymholiadau ymgeisio am y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig, anfonwch e-bost at licensing@blaenau-gwent.gov.uk
Ar gyfer unrhyw ymholiadau eraill ynghylch y cynllun trwyddedu triniaethau arbennig neu i roi gwybod am bryder ynghylch ymarferydd, safle neu gerbyd sy’n cyflawni unrhyw driniaeth neu driniaethau arbennig, anfonwch e-bost at environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk