Mae petrol yn sylwedd peryglus, mae’n hylif hynod fflamadwy a gall roi bant anwedd y gellir yn rhwydd ei roi ar dân ac os na thrafodir ef yn ddiogel mae ganddo’r potensial i achosi tân difrifol a/neu ffrwydrad.
Golyga hyn bod bob amser risg o dân a/neu ffrwydrad os oes ffynhonnell danio gerllaw. Er enghraifft fflam agored, gwreichionen drydanol neu debyg. Oherwydd y peryglon hyn, mae storio petrol yn ddiogel wedi ei gorffori’n rhan o ddeddfwriaeth; ac mae hyn yn gymwys ar eich cyfer chi os ydych yn storio petrol.
Beth yw’r gyfraith ar storio petrol yn ddiogel?
Mae Rheoliadau (Cyfuno) Petroliwm 2014 (RhCP) a ddaeth i rym ar 1 Hydref 2014 yn gymwys ar gyfer:
- gweithleoedd sy’n storio petrol lle caiff petrol ei ddosbarthu h.y. gorsafoedd petrol manwerthu a heb fanwerthu; a
- safleoedd heb fod yn weithleoedd sy’n storio petrol, er enghraifft mewn cartrefi preifat, neu mewn clybiau/cymdeithasau (neu debyg).
Awdurdodau Gorfodi Petroliwm (AGPau) yn flaenorol Awdurdodau Trwyddedu Petroliwm (ATPau) sy’n gyfrifol am orfodi’r Rheoliadau (Cyfuno) Petroliwm 2014. Maent hefyd yn parhau i orfodi’r Rheoliadau Sylweddau Peryglus ac Atmosfferau Ffrwydrol 2002 (RhSPAFf) mewn gweithleoedd sy’n dod dan Reoliadau (Cyfuno) Petroliwm. Golyga hyn nad oes newid o gwbl i’r trefniadau gorfodi cyfredol.
Mae storio petrol yn ddiogel mewn gweithleoedd yn cael ei gwmpasu hefyd gan RhSPAFf.
- Cyngor pellach ar storio petrol yn ddiogel
- Gwneud cais am Dystysgrif Storio Petrol
- Rhestr o’r ffioedd cyfredol
Gwybodaeth Gyswllt
Enw’r Tîm: Commercial Team
Rhif Ffôn: 01495 369542
Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, The General Offices, Steelworks Road, Ebbw Vale NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk