Damweiniau

Fel rhan o’n swyddogaeth rydym yn ymchwilio i ddamweiniau sy’n digwydd yn y gweithle. 

Mae’n ofynnol i gyflogwyr gofnodi damweiniau sy’n digwydd yn eu gweithle, ar gyfer eu cyflogeion ynghyd ag aelodau’r cyhoedd, neu bersonau eraill megis contractwyr neu fasnachwyr allai ymweld â’u safle.

http://www.hse.gov.uk/pubns/books/accident-book.htm 

Ymhellach bydd rhai damweiniau’n adroddadwy dan y ‘Rheoliadau Adrodd ar Anafiadau, Clefydau neu Ddigwyddiadau Peryglus’. Mae’r rhain yn cynnwys damweiniau sy’n peri mathau penodol o anafiadau, sy’n arwain at gyflogai’n colli gwaith am fwy na 7 niwrnod neu’n arwain at aelod o’r cyhoedd yn cael ei gymryd i’r ysbyty.

Am wybodaeth bellach ar y math o ddamweiniau y dylid eu hadrodd i’r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch

Os oes angen i chi roi gwybod am ddamwain gallwch wneud hyn ar-lein. 

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Commercial Team

Rhif Ffôn: 01495 369542

Cyfeiriad: Public Protection – Environmental Health, Commercial Team, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Glynebwy, NP23 6DN

Cyfeiriad E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk