Caiff Grant Twristiaeth Busnes Blaenau Gwent ei gyllido gan Gronfa Rhannu Ffyniant Llywodraeth y DU a’i reoli gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent. Nod y Grant yw cefnogi twf a datblygiad busnesau newydd a phresennol o fewn y sectorau Lletygarwch a Thwristiaeth.
Pwy all wneud cais
- Busnesau sy’n seiliedig ym Mlaenau Gwent neu fusnesau sy’n symud i’r ardal o fewn y sectorau Lletygarwch a Thwristiaeth.
- Busnesau bach a chanolig, h.y. rhai yn cyflogi llai na 249 o bobl.
- Masnachwyr Unigol, Partneriaethau, Cwmnïau Cyfyngedig, Mentrau Cydweithredol, Partneriaethau Rhwymedigaeth Cyfyngedig ac eraill.
- Anelwyd y grant at fusnesau twristiaeth a lletygarwch tebyg i lety Gwely a Brecwast, Gosodiadau Gwyliau, Tai Llety, Gwestai, atyniadau, safleoedd, tywyswyr a darparwyr gweithgareddau.
- Busnesau gyda phrosiectau sy’n cyflawni o leiaf un o ddeilliannau allweddol y prosiect.
Pethau allweddol y gall y prosiect eu cyflenwi
Caiff ceisiadau eu hasesu a rhoddir sgôr iddynt ar gyfer allbynnau allweddol dilynol y cynllun (mae’n rhaid cyflawni o leiaf un o’r blaenoriaethau). Rhoddir blaenoriaeth i brosiectau sy’n arwain at greu swyddi oherwydd yr allbynnau a’r deilliannau sy’n gysylltiedig gydag ymyriad perthnasol y Gronfa Ffyniant Gyffredin.
- Nifer y swyddi a gaiff eu creu.
- Nifer y swyddi a gaiff eu diogelu.
- Effaith economaidd h.y. cyfleoedd cadwyn gyflenwi lleol
- Ynni gwyrdd a datgarboneiddio
- Twf, cynnydd mewn trosiant, paratoi ar gyfer y dyfodol.
- Defnyddio arloesedd a thechnoleg i wella cynhyrchiant neu wasanaeth.
- Cyfenwi cyfleusterau ymwelwyr newydd a gwell.
- Arallgyfeirio a datblygiadau newydd.
- Dylai pob prosiect gefnogi o leiaf un o’r themâu yng Nghynllun Rheoli Cyrchfan Blaenau Gwent
o Datblygu busnes
o Herio a newid canfyddiadau
o Gweithio partneriaeth
o Ymchwil a dadansoddi
o Sgiliau
o Trafnidiaeth
o Twristiaeth busnes
o Diwylliant a threftadaeth yn cynnwys Cartref y GIG ac achau
o Digwyddiadau
o Twristiaeth wyrdd, awyr agored yn cynnwys gweithgareddau a llwybrau awyr agored
o Canol trefi
Cymorth grant
- 50% o gostau cymwys a rhesymol hyd at uchafswm o £50,000 heb gynnwys TAW.
- Derbynnir ceisiadau ar gyfer costau refeniw a chostau cyfalaf.
- Isafswm grant £1,000 (gwariant prosiect o leiaf £2,000). Mae’n rhaid holl gostau prosiect grant eithrio TAW.
I gael manylion llawn am gymhwysedd a'r broses ymgeisio, cliciwch