Treth Gyngor - Gostyngiadau Band

Bandiau Prisio Treth Gyngor

Telir Treth Gyngor fesul cartref, a bydd y swm y byddwch yn ei dalu yn dibynnu ar y band mae’ch cartref ynddo. cafodd hyn ei gyfrifo gan ddefnyddio’i gwerth ar y farchnad agored at y 1af o Ebrill 2003:
 

Bandiau Prisio Treth Gyngor

Band Prisio

 Ystod Prisiau

Band Prisio

 Ystod Prisiau

 A

 odan £44,000

 E

 £123,001 - £162,000

 B

 £44,001 - £65,000

 F

 £162,001 - £223,000

 C

 £65,001 - £91,000

 G

 £223,001 - £324,000

 D

 £91,001 - £123,000

 H

 £324,001 - £424,000

 

 

 I

 £424001 a mwy 

Bandiau Prisio Treth Gyngor

 

Band Prisio

 Ystod Prisiau

Band Prisio

 Ystod Prisiau

 A

 odan £44,000

 E

 £123,001 - £162,000

 B

 £44,001 - £65,000

 F

 £162,001 - £223,000

 C

 £65,001 - £91,000

 G

 £223,001 - £324,000

 D

 £91,001 - £123,000

 H

 £324,001 - £424,000

 

 

 I

 £424001 a mwy 

Mae’ch Bil Treth Gyngor yn nodi pa fand sy’n berthnasol i’ch cartref. Gwiriwch eich band Treth Cyngor

Apeliadau

Mae’r rhesymau dros apelio am fandio yn gyfyngedig i’r achosion canlynol.

  • ble rydych yn credu bod cynnydd materol neu ostyngiad materol wedi bod yng ngwerth y cartref
  • pan rydych yn dechrau neu stopio defnyddio rhan o’ch cartref i gynnal busnes, neu fod y cydbwysedd rhwng defnydd domestig a busnes yn newid
  • ble mae’r Swyddog Rhestru wedi addasu rhestr heb fod y trethdalwr wedi gwneud cynnig
  • pan rydych yn dod yn drethdalwr cartref am y tro cyntaf. (Rhaid gwneud eich apêl o fewn chwe mis, ond os yw’r un apêl eisoes wedi cael ei hystyried a’i bennu gan Dribiwnlys Prisio, ni ellir ei wneud eto) 

Gall gynnydd materol mewn gwerth ddod yn sgil gwneud gwaith adeiladu, peirianneg neu waith arall ar y cartref. Yn yr achosion hyn, nid yw ailbrisio’n digwydd tan ar ôl gwerthu’r cartref - felly y perchennog neu breswylydd newydd byddai fel arfer y person sy’n apelio.

Gall ostyngiad materol mewn gwerth ddod yn sgil dymchwel unrhyw ran o’r cartref, unrhyw newid yng nghyflwr corfforol yr ardal leol neu addasiad i wneud y cartref yn addas i’w ddefnyddio gan rywun ag anabledd corfforol. Yn yr achosion hyn, dylai ailbrisio ddigwydd mor gynted â phosib.

Gallwch hefyd apelio os ydych yn ystyried eich bod ddim yn atebol i dalu treth gyngor, er enghraifft, oherwydd mai nad chi yw’r preswylydd neu’r perchennog, neu oherwydd bod eich cartref wedi’i eithrio; neu fod y Cyngor wedi gwneud camgymeriad wrth gyfrifo’ch bil. Os ydych apelio am y rhesymau hyn, rhaid i roi gwybod i’r Cyngor yn ysgrifenedig yn gyntaf er mwyn i ni gael cyfle i ailystyried yr achos.

Nid yw gwneud apêl yn caniatáu i chi beidio â thalu treth sy’n ddyledus yn y cyfamser. Os yw’ch apêl yn llwyddiannus bydd hawl gennych i ad-daliad o unrhyw dreth a dalwyd yn ormod.

Gellir cael manylion pellach ar y broses apelio (gan gynnwys rôl y Tribiwnlysoedd Prisio) o’r Ganolfan Ddinesig, neu

Asiantaeth y Swyddfa Brisio
Adeiladau’r Goron,
11 Heol Cas-gwent,
Casnewydd
NP19 8WA

Ffôn 03000 505505

Gwybodaeth Gyswllt

Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:

Adran y Treth Gyngor
Ffôn - (01495) 355212
Ffacs - (01495) 356132

Post - Adran y Treth Gyngor, Adeiladau’r Cyngor, Canolfan Ddinesig, Glynebwy, Gwent NP23 6XB

E-bost : CTax@blaenau-gwent.gov.uk