Dysgwr Cymraeg lleol yn gwneud gwahaniaeth

Mae Sarah Merton, cynorthwyydd yn llyfrgell Abertillery, wedi bod yn gweithio'n galed i annog y Gymraeg ym Mlaenau Gwent. Siaradwyd â Sarah a gofynnwyd iddi rannu ei hanes o ddysgu iaith newydd.

Ar ôl gweld pwysigrwydd iaith a diwylliant yn Ffrainc yn ystod ei thaith yn gwylio’r Ewros yn 2016, penderfynodd Sarah ddysgu Cymraeg. Ymunodd â cynllun Dysgu Cymraeg yn 2017.

Ar ôl gorffen pob lefel cwrs o Ddysgu Cymraeg, derbyniodd Sarah wobr Dysgwr Newydd y Flwyddyn gan Coleg Gwent y llynedd. “ Roedd fy nhiwtor yn anhygoel ac wedi fy helpu'n fawr” . Nawr mae Sarah hefyd yn gweithio fel tiwtor i'r Dysgu Cymraeg ac yn gweithio’r ddwy swydd rhan-amser.

Dechreuodd Sarah grŵp ar gyfer dysgwyr Cymraeg yn yr ardal yn llyfrgell Abertillery flwyddyn yn ôl. Mae'n rhedeg bob dydd Mercher rhwng 2 a 3.30yp ac mae'n croesawu pob lefel o Gymraeg.

Mae Sarah yn disgrifio'r grŵp fel, "yn anffurfiol iawn ac yn hamddenol, rydym yn cael paned ac yn sgwrsio, mae'n bleser cefnogi dysgwyr a'u helpu i adeiladu hyder, roedd Abertillery yn gymuned sy'n siarad Cymraeg felly bob wythnos rydym yn anelu at gydweithio i adennill ein mamiaith".

Mae Sarah yn mynd ymlaen i ddweud eu bod am drefnu bws i fynd i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mhontypridd eleni a hefyd sefydlu mwy o ddigwyddiadau yn yr ardal. Mae'r grŵp hefyd yn parhau i helpu aelodau newydd sy'n gwneud yr arholiadau Dysgu Cymraeg ym mis Mehefin.

Dywedodd Bethan Lawrence, Cynorthwyydd Llyfrgell Ymchwil, Llyfrgelloedd Blaenau Gwent: "Pan oeddwn i yn yr ysgol, roedd y Gymraeg yn un o'r pynciau eraill i'w gymryd ac nid oeddwn yn awyddus i ddysgu'r iaith, er fy mod yn falch o fod yn Gymreig a'm treftadaeth. Dim ond pan oeddwn yn fy 30au fy hun y darganfyddai fod gen i gysylltiadau cryf â'm hynafiaid Cymraeg, a dechreuais weithio ar wella fy sgiliau Cymraeg a dysgu, yn gobeithio parchu fy mhreiddiau. Mae hyn yn rhywbeth rydw i wedi bod yn angerddol am ei gynnwys yn fy rôl i lyfrgelloedd Blaenau Gwent".

Bwriad gwasanaeth llyfrgelloedd Blaenau Gwent yw ceisio cynnig mwy o ddigwyddiadau a gweithgareddau sy'n canolbwyntio ar y Gymraeg. Mae ganddyn nhw eisoes grŵp Cymraeg neu "Clwb Cymraeg" ar ddydd Mercher ar safle Abertillery, ac yn yr un man yn fuan bydd Cylch Ti a Fi  (Grŵp Chwarae Cymreig) gyda phartneriaid blynyddoedd cynnar, Mudiad Meithrin. Bydd y grŵp hwn ar gyfer plant dan oed ysgol i chwarae, canu, creftiau a mwynhau eu hunain mewn amgylchedd hamddenol, cyfeillgar a ddiogel. Nid oes angen i chi siarad Cymraeg gan fod yr holl weithgareddau'n ddwyieithog a bydd yn helpu i symud i'r Cylch Meithrin ac i addysg Gymraeg. Mi fydd darpariaeth ysgol newydd Tredegar, sydd yn barod wedi'i leoli yn dŷ Bedwellty, mi fydd y plant yn gallu symud i Ysgol Gymraeg Tredegar newydd pan fydd yn agor yn y gwanwyn blwyddyn nesaf.

Gorffennodd Sarah trwy ddweud "Rydym wedi bod yn ehangu ein llyfrau Cymraeg ar gyfer plant ac oedolion, sy'n cynnwys y gyfres i ddysgwyr oedolion "Cyfres-Amdani” Wrth i fwy o bobl â diddordeb yn yr iaith Gymraeg ar draws y fwrdeistref a mwy o ysgolion Cymraeg yn cael eu sefydlu yn yr ardal, rwy'n edrych ymlaen at y dyfodol a sut gall gwasanaethau llyfrgell helpu i dyfu siaradwyr Cymraeg ym Mlaenau Gwent.

Mae grŵp arall o ddysgwyr yn yr ardal, yn cwrdd ym Marc Bryn Bach ar fore dydd Mercher rhwng 10-12yb gyda grwpiau arall ar draws y Cwm wedi eu trefnu gan Menter Iaith Blaenau Gwent a Dysgu Cymraeg.

Am fwy o wybodaeth am lyfrgelloedd Aneurin Leisure neu yr hyn sydd yn y darn yma, ym Mlaenau Gwent: Ewch i Aneurin Leisure - Llyfrgelloedd neu defnyddiwch y lincs yn y dogfen.