Gofalwyr maeth Blaenau Gwent yn annog pobl i ‘gynnig rhywbeth’ i gefnogi pobl ifanc yr ardal.

Ar gyfer Pythefnos Gofal Maeth™, mae Maethu Cymru Blaenau Gwent yn galw ar bobl yn yr ardal i ystyried dod yn ofalwyr maeth i gefnogi plant a phobl ifanc leol sydd mewn angen.

 

Thema Pythefnos Gofal Maeth eleni yw "eiliadau maethu" ac mae gofalwyr maeth lleol yn gobeithio y bydd rhannu eu heiliadau maethu yn cefnogi'r achos. Drwy rannu eiliadau maethu cadarnhaol, maent yn dangos sut y gall unrhyw un helpu i greu atgofion, magu hyder a gwneud i blant deimlo'n ddiogel a bod rhywun yn eu caru.

 

Canfu ymchwil diweddar gan Maethu Cymru - y rhwydwaith cenedlaethol o wasanaethau maethu awdurdodau lleol - fod pobl yn aml yn peidio gwneud cais i ddod yn ofalwr gan nad ydynt yn credu bod ganddynt y sgiliau a'r profiad 'cywir'.

 

Yn y llyfr coginio newydd – Gall pawb gynnig rhywbeth - mae Maethu Cymru yn nodi’r pethau syml y gall gofalwr eu cynnig - fel sicrwydd o bryd o fwyd rheolaidd, amser teuluol o gwmpas y bwrdd, a chreu hoff brydau newydd.

 

Mae Gall pawb gynnig rhywbeth yn cynnwys dros 20 o ryseitiau, gan gynnwys ryseitiau gan y gymuned gofal maeth a chogyddion enwog.

 

Mae enillydd MasterChef, Wynne Evans; Beirniad Young MasterChef, Poppy O'Toole; a’r cogydd/awdur Colleen Ramsey wedi cyfrannu ryseitiau. Mae'r athletwr Olympaidd a'r ymgyrchydd gofal maeth, Fatima Whitbread, a oedd ei hun mewn gofal, hefyd wedi cyfrannu. 

 

Ychwanegodd cyn-gystadleuydd Great British Bake-Off, Jon Jenkins, a'r comedïwr Kiri Pritchard Mclean ryseitiau hefyd - gan dynnu ar eu profiadau personol fel gofalwyr maeth.

 

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal yn rhannu profiadau go iawn.

 

I lansio'r llyfr, bydd Colleen Ramsey, awdur 'Bywyd a Bwyd’, yn cynnal gweithdy coginio i bobl ifanc â phrofiad o ofal i ddysgu rysáit newydd a sgiliau coginio hanfodol i'w defnyddio yn eu bywydau annibynnol yn y dyfodol.

Mae pobl ifanc sydd â phrofiad o ofal hefyd wedi chwarae rhan fawr yn natblygiad y llyfr coginio.

Darluniwyd ac ysgrifennwyd y rhagair ar gyfer y llyfr coginio gan Sophia Warner, Cymraes o ddarlunydd, ymgyrchydd, a pherson ifanc â phrofiad o ofal:

 

"Pan oeddwn i'n iau, rwy'n cofio'n glir holi fy mam faeth am darddiad y bwyd roedd hi’n ei roi i ni, gan fynnu ei fod yn hanu o Aberhonddu, cartref annwyl fy mhlentyndod. Ysgrifennais 'Bolognese Brycheiniog' ar gyfer y llyfr coginio, yn seiliedig ar rysáit fy mam faeth.

 

"Mae gan y rysáit yma le arbennig yn fy nghalon oherwydd hwn oedd y pryd cyntaf ges i ar ôl symud i mewn i'm cartref maeth. Roeddwn i wedi sôn bod fy mam fiolegol yn arfer coginio’r pryd yma, a gwnaeth fy mam faeth, yn annwyl iawn, ei baratoi i fi. Wrth i fi eistedd o gwmpas y bwrdd gyda fy nheulu maeth newydd, roeddwn i'n teimlo ymdeimlad o berthyn a chynhesrwydd, a bod croeso mawr i fi." 

 

Mae angen mwy o deuluoedd maeth ledled Cymru. 

 

Bob mis Mai, mae Pythefnos Gofal Maeth™ - ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu i godi proffil maethu a dangos sut mae gofal maeth yn trawsnewid bywydau – yn gobeithio codi ymwybyddiaeth o'r angen am fwy o ofalwyr maeth.

 

Yng Nghymru, mae mwy na 7,000 o blant mewn gofal, ond dim ond 3,800 o deuluoedd maeth sydd yna.

 

Mae Maethu Cymru wedi cychwyn gyda'r nod beiddgar o recriwtio dros 800 o deuluoedd maeth newydd erbyn 2026, i ddarparu cartrefi croesawgar i blant a phobl ifanc leol.

 

Bydd y llyfr coginio yn cael ei ddosbarthu i ofalwyr maeth ledled Cymru a gellir lawrlwytho fersiwn ddigidol o: gall pawb gynnig rhywbeth – maethu cymru (llyw.cymru)

 

I ddysgu mwy am ddod yn ofalwr maeth ym Mlaenau Gwent, ewch i https://fosterwales.blaenau-gwent.gov.uk/cy/