Cymunedau Dysgu Cynaliadwy (gynt Ysgolion a Cholegau y 21ain Ganrif)

       

 

Mae Tîm Trawsnewid Addysg y Cyngor yn cyflwyno rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy Llywodraeth Cymru (gynt Ysgolion a Cholegau yr 21ain Ganrif) a’r Rhaglen Cyfalaf Addysg. Mae mwy o wybodaeth ar y rhaglen Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ar gael yn: Cymunedau Dysgu Cynaliadwy | LLYW.CYMRU

Mae’r Rhaglen yn edrych ar y buddsoddiadau cyfalaf hirdymor a strategol sydd eu hangen i greu cymunedau addysgol sy’n addas i’r diben yng Nghymru yr 21ain Ganrif a hefyd yn canolbwyntio adnoddau ar yr ysgolion cywir yn y lleoedd cywir, ar gyfer plant a phobl ifanc o’r blynyddoedd cynnar hyd at ôl-16.

Mae Cyngor Blaenau Gwent yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru i wella adeiladau ein hysgolion. Dan raglen Band B, gallwn gyflwyno achosion busnes i sicrhau cyllid ar gyfer Addysg i ddatblygu amgylcheddau dysgu newydd a gwell. Mae cyfraddau ymyriad cyllid yn gyfartal â chyfraniad o 35% gan y Cyngor a 65% gan Lywodraeth Cymru.

Amcan cyntaf Buddsoddiad – darparu seilwaith addysgol effeithiol ac effeithlon fydd yn ateb y galw cyfredol a’r dyfodol am leoedd erbyn 2024.

  • Caiff costau ôl-groniad cynnal a chadw ar gyfer yr ysgolion a’r colegau a ddetholwyd ar gyfer Band B eu gostwng gan o leiaf 50% (yn seiliedig ar y dybiaeth y bydd tua 50% o’r prosiectau yn y Rhaglen yn cymryd lle asedau presennol)
  • Dim adeiladau categori D yn y stad
  • 25% o adeiladau cyflwr Categori C yn cael eu gwella i Gategori A neu B
  • Rhoi’r nifer gywir o leoedd ar gyfer cyflenwi:
  • Addysg cyfrwng Cymraeg
  • Addysg cyfrwng Saesneg
  • Cyfarch materion digonolrwydd lle’n berthnasol.
  • Gweithio tuag at adeiladau sector cyhoeddus sero net yn unol ag ymrwymiadau gostwng carbon Llywodraeth Cymru.

 

Ail amcan Buddsoddiad – gwneud y defnydd gorau posibl o seilwaith ac adnoddau i ddarparu gwasanaethau cyhoeddus ar gyfer ein cymunedau erbyn 2024. Bydd hyn yn cynnwys hyblygrwydd ein hasedau er mwyn cynyddu hyd yr eithaf y defnydd o ofod a chyfleusterau sydd ar gael ar gyfer ein rhanddeiliaid.

  • Ein nod yw i bob cyfleuster sy’n derbyn buddsoddiad ymrwymo i wneud asedau ar gael ar gyfer defnydd y gymuned yn cynnwys (ond nid yn unig) fynediad i wasanaethau cymorth a rhaglenni sy’n hyrwyddo cadernid y gymuned a chyfrannu at daclo tlodi os oes galw lleol yn bodoli.
  • 10% o’r ysgolion/colegau sy’n derbyn cyllid gan y Rhaglen yn cynnig gwasanaethau cyhoeddus ar yr un lleoliad os oes galw lleol yn bodoli.

Roedd Rhaglen Band A Llywodraeth Cymru yn rhedeg rhwng 2011 a 2019 ac yn y cyfnod hwnnw cwblhaodd Blaenau Gwent bedwar prosiect, a chawsant i gyd eu cyflenwi ar amser ac o fewn cyllideb.

 

Dechreuodd Rhaglen Band B ym mis Ebrill 2019 a daw i ben yn 2025. Bydd y Rhaglen yn sicrhau buddsoddiad o £19.6 miliwn drwy stad ysgolion Blaenau Gwent. Cyfradd ymyriad Llywodraeth Cymru ar gyfer Band B yw rhaniad o 65%/35% o blaid awdurdodau lleol.

 

Ym mis Tachwedd 2021 cyhoeddodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg, y bydd angen i bob adeilad ysgol a choleg newydd a phrosiectau ailwampio ac estyniad sylweddol gyrraedd targedau Carbon Sero Net o 1 Ionawr 2022. Mae Rhaglen Band B yn anelu i gyflawni’r prosiectau allweddol dilynol yn unol gyda’r amcanion buddsoddi:

 

  • Ailddatblygu Ysgolion Cynradd Ebwy Fawr

 

  • Parhau i Ailwampio Ysgolion Uwchradd o fewn yr ysgolion blaenoriaeth dilynol:
  • Campws Uwchradd Cymuned Ddysgu Abertyleri (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
  • Ysgol Sylfaen Brynmawr (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
  • Canolfan Ddysgu Canolfan yr Afon (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)
  • Ysgol Gyfun Tredegar (cliciwch ar y ddolen i gael diweddariad)

 

 

 

Sut y caiff gwaith adeiladu ei reoli

Caiff cyflenwi lleol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy ei benderfynu gan Raglen Amlinellol Strategol y Cyngor, yn unol â chyflawni amcanion addysgol allweddol yn cynnwys gwella safonau addysg o fewn Blaenau Gwent.

 

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â’r Tîm Trawsnewid Addysg drwy’r cyfeiriad e-bost dilynol: 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk 

Polisi Trefniadaeth Ysgolion a Safonau Addysgol Blaenau Gwent

Mae’r Cyngor yn parhau i fod yn ymroddedig i ddarparu addysg ansawdd uchel ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc. Gwnaed cynnydd i godi safonau addysgol; fodd bynnag y nod yw gwella deilliannau a llesiant disgyblion yn barhaus ar draws y fwrdeistref sirol. Mae felly’n rhan o Raglen Amlinellol Strategol Cymunedau Dysgu Cynaliadwy y Cyngor (gynt Ysgolion a  Cholegau yr 21ain Ganrif) fod angen adolygiad strategol o’r stad ysgolion i drawsnewid safonau addysg.

 

Y weledigaeth yw gwella cyrhaeddiad, cyflawniad a llesiant disgyblion drwy drawsnewid ysgolion ac amgylcheddau dysgu i gyrraedd disgwyliadau modern Ysgolion yr 21ain Ganrif a hefyd sicrhau a chynnal cyflenwi addysg ansawdd uchel ar gyfer pob disgybl ar draws ystodau oedran 3-16, wedi ei seilio ar ddau amcan:

  • bod yr awdurdod lleol sy’n perfformio orau o fewn y teulu o awdurdodau lleol (Caerffili, Castell-nedd Port Talbot, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf) erbyn 2017/2018; a
  • rhagori ar gyfartaledd Cymru ar gyfer pob dangosydd allweddol erbyn 2018,.

 

Mae Polisi Trefniadaeth Ysgolion Blaenau Gwent yn rhoi cyfeiriad strategol ar gyfer trawsnewid ac adolygiad parhaus ar y stad ysgolion o fewn Blaenau Gwent. I gael mwy o fanylion ewch i: http://democracy.blaenau-gwent.gov.uk/aksblaenau_gwent/images/att2877.pdf

Gwybodaeth Cyswllt

Enw’r Tîm: Tîm Trawsnewid Addysg

Rhif Ffôn: 01495 355470 /355132

Cyfeiriad: Cyfarwyddiaeth Addysg, Llawr 8, Llys Einion, Stryd yr Eglwys, Abertyleri,  NP13 1DB

Cyfeiriad E-bost: 21stcenturyschools@blaenau-gwent.gov.uk