Y BYG

 

Beth yw BYG? 

Gwefan yw’r Byg wedi’i ddylunio gan bobl ifanc ar gyfer pobl ifanc.

Mae’n wefan gwbl ryngweithiol sy’n annog creadigrwydd ac ymglymiad uniongyrchol a darparu pobl ifanc 11 i 25 oed gyda gwybodaeth am ddigwyddiadau, newyddion, gweithgareddau, gwasanaethau a chyfleoedd ar eu cyfer ledled Blaenau Gwent. 

 

Sut mae’n gweithio? 

Mae bron pob erthygl y byddwch yn eu darllen ar wefan Y Byg wedi’i hysgrifennu gan dîm o bobl ifanc rhwng 11 a 25 oed, sydd hefyd yn helpu i redeg y wefan.

Mae’r tîm yn gyson yn edrych am aelodau newydd, felly os ydych yn hoffi’r erthyglau rydych wedi’u darllen ar y wefan ac os hoffech roi cynnig ar ysgrifennu un eich hun, yna fe hoffent gwrdd â chi. Mae’r tîm yn cwrdd yn gyson ac mae croeso i bawb alw heibio i weld sut mae pethau’n gweithio – heb unrhyw ymrwymiad!
 
Os nad ydych yn siŵr a hoffech fod yn aelod llawn o’r tîm ond os hoffech gyflwyno erthygl rydych wedi’i hysgrifennu, gallwch gysylltu â ni trwy e-bostio youth.service@blaenau-gwent.gov.uk a byddwn yn eich helpu i gyhoeddi’ch gwaith er mwyn i eraill ei werthfawrogi. Os hoffech ysgrifennu erthygl ond os nad ydych yn siŵr ble i gychwyn, rhowch wybod i ni ac fe roddwn gymorth i chi.
 
Fe hoffem glywed gennych hefyd os oes gennych ddiddordeb mewn:

  • Ffotograffiaeth
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Newyddiaduriaeth
  • Cerddoriaeth
  • Gwneud ffilmiau

Neu unrhyw beth rydych yn creu byddai’n ychwanegiad da i'r safle. Byddwn yn eich helpu i ddangos eich gwaith i gynulleidfa ehangach, yn eich rhoi mewn cysylltiad ag unigolion o’r un meddylfryd a hefyd efallai’n gallu cynnig cyfleoedd diddorol i chi.

Gwybodaeth Gyswllt

Os oes gennych ddiddordeb mewn unrhyw elfen o’r uchod, cysylltwch â ni ar youth.service@blaenau-gwent.gov.uk ac fe ddechreuwn yno, gallwch hefyd gysylltu â Gavin Townsend.

Ffôn: 01495 355811 neu

e-bost: gavin.townsend@blaenau-gwent.gov.uk