Cymorth i bobl ifanc

Ym Mlaenau Gwent, mae nifer o wasanaethau sy’n cynnig cymorth i bobl ifanc 11-25 oed sydd mewn perygl o heb fod mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET) neu nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant ar hyn o bryd.

0-10

Gellir cael cymorth ar gyfer y grŵp oedran hwn drwy’r Blynyddoedd Cynnar, Teuluoedd yn Gyntaf, y Gwasanaeth Lles Addysg a Chynhwysiant Addysgol. 

11-16

Mae ystod eang o gymorth ar gael ar gyfer y grŵp oedran hwn, a all gynnwys cymorth un-i-un a gwaith grŵp, yn yr ysgol neu’r tu allan iddi, yn ystod y dydd, gyda’r nos neu yn ystod y gwyliau, ac yn ystod cyfnodau o newid.

16-25

Mae cymorth ar gael hefyd ar gyfer y grŵp oedran hwn ar sail un-i-un neu mewn grwpiau. Gall pobl ifanc gael cymorth i aros mewn addysg bellach, cyflogaeth neu hyfforddiant neu ddechrau arni. Mae cymorth ychwanegol ar gael hefyd i helpu pobl ifanc nad ydynt yn ‘barod am waith’ neu sydd â rhwystrau y mae angen iddynt eu goresgyn.

Rydym wrthi’n ailwerthuso ein tudalen we. Yn y cyfamser, os oes angen rhagor o wybodaeth arnoch, cysylltwch â Liam Thomas, y Cydlynydd Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, ar 01495 355690 neu yn Liam.Thomas@blaenau-gwent.gov.uk

 

 

  
* Clicio i gael mynediad i'r cyfeiriadur llawn*

Os gwyddoch am unrhyw brosiectau a all fod yn addas i'w hychwanegu neu os teimlwch y dylid gwneud newidiadau i unrhyw un o'r darpariaethau presennol, cysylltwch ag Andrew Bevan, Swyddog Datblygu NEETS Andrew.Bevan@blaenau-gwent.gov.uk

Dogfennau eraill yn ymwneud â'r Agenda NEET ym Mlaenau Gwent