Plant a Phobl Ifanc/ Rhieni a Gofalwyr – Gwasanaethau Eiriolaeth Annibynnol

Gwybodaeth Rhieni/Gofalwyr a Phlant

Darperir cefnogaeth annibynnol i rieni ym Mlaenau Gwent gan SNAP Cymru (Prosiect Cynghori ar Anghenion Arbennig Cymru).

Elusen yw SNAP Cymru sy'n cynnig gwybodaeth a chefnogaeth i deuluoedd plant a phobl ifanc sydd ag anghenion addysgol arbennig. Mae'r gwasanaeth:

  • Am ddim
  • Yn gyfrinachol
  • Yn annibynnol

Beth mae SNAP Cymru yn gallu gwneud?

  • Siarad â chi am eich pryderon.
  • Ymweld â chi adref os ydych eisiau iddynt.
  • Eich helpu i ddeall sut gellir helpu'ch plentyn.
  • Eich helpu i ysgrifennu'ch meddyliau am eich plentyn.
  • Eich cefnogi mewn cyfarfodydd, yn yr ysgol, yn ystod ymweliadau a thrafodaethau gyda gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda'ch plentyn os ydych yn dymuno.
  • Rhoi gwybodaeth i chi am y gwasanaethau yn eich ardal a sut gallwch ddod o hyd i'r gefnogaeth y gallech fod ei angen.

O AAA i ADY: Fforymau Rhieni a Gofalwyr

Mae SNAP Cymru yn cynnal cyfres o fforymau rhieni a gofalwyr am ddim i deuluoedd plant ag ADY/plant anabl 0-25 oed ledled Cymru, yn dechrau y mis hwn ac yn parhau tan fis Ebrill 2023.

Mae'r sesiynau'n cynnig cyfle i rieni a gofalwyr wneud y canlynol:

· cael mwy o wybodaeth am weithredu'r system ADY yng Nghymru

· rhannu eu barn a'u profiadau

·  cael mynediad at gymorth a chyngor gan dîm SNAP Cymru

Bydd adborth o'r sesiynau yn helpu Llywodraeth Cymru i ddatblygu adnoddau a chefnogaeth i deuluoedd yn y dyfodol.

Bydd y fforymau yn cael eu cynnal ar-lein ac wyneb yn wyneb, mewn gwahanol leoliadau ledled Cymru.

Helpwch ni i hyrwyddo'r digwyddiadau gyda rhieni a gofalwyr:

Twitter

Cofrestru ar Eventbrite

Blog SNAP Cymru

Gallwch hefyd anfon e-bost at SNAP Cymru gydag unrhyw gwestiynau am y digwyddiad: fromsentoaln@snapcymru.org

 

Tudalennau Cysylltiedig:

  • Siaradwch â rhywun ar 0808 801 0608

Dogfennau Cysylltiedig

Gweithredu Deddf Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (2018)

Sefydliadau eraill a all helpu

Protocol Y Drindod

Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol Gwent- AskSARA