Ôl-16

Gwybodaeth Ôl-16 ar gyfer Rhieni/Gofalwyr

Mae pontio o’r ysgol i addysg ôl-16 a hyfforddiant yn gyfnod pwysig iawn ym mywyd pob person ifanc.

Fel rhan o Ddeddf Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) Llywodraeth Cymru, mae rhai trefniadau ar gyfer addysg ôl-16 a hyfforddiant yn newid.

Beth sy’n digwydd ar ôl gadael yr ysgol?

Mae’r rhan fwyaf o bobl ifanc yng Nghymru sydd ag ADY yn mynychu coleg Addysg Bellach neu raglen hyfforddi.

Mae colegau Addysg Bellach yn darparu ystod eang o gyrsiau i ddiwallu anghenion dysgwyr.

Mae darpariaeth gyffredinol ar gyfer pob dysgwr a chaiff anghenion llawer o bobl ifanc gydag anawsterau dysgu a/neu anableddau eu diwallu yn y ffordd hon.

Ar hyn o bryd, ni fydd dysgwyr a all gael mynediad i addysg a hyfforddiant drwy ddarpariaeth gyffredinol angen cael Cynllun Datblygu Unigol.

Ond o fis Medi 2023, bydd pob dysgwr sydd angen darpariaeth dysgu ychwanegol yn y coleg angen Cynllun Datblygu Unigol i’w helpu i bontio o’r ysgol i addysg ôl-16 a hyfforddiant.

Beth yw Cynllun Datblygu Unigol?

Mae Cynllun Datblygu Unigol yn ddogfen gyfreithiol sy’n disgrifio anghenion cymorth dysgu ychwanegol plentyn neu berson ifanc, a’r canlyniadau yr hoffent eu sicrhau.

  • Yn ddelfrydol, gall plant sydd ag ADY drafod pontio yn y dyfodol o Flwyddyn 9 ymlaen, yn ystod cyfarfod adolygu blynyddol eu Cynllun Datblygu Unigol. Yma, gallant ganfod mwy am y cyfleoedd a’r llwybrau sydd ar gael iddynt a gallant ofyn cwestiynau. Gall Gyrfa Cymru a staff coleg hefyd fynychu i gefnogi dysgwyr a’u rhieni yn y cyfarfodydd hyn.
  • Bydd yr ysgol a’r awdurdod lleol yn cynghori ar y llwybrau sydd ar gael ar gyfer y dysgwr.
  • Lle’n briodol, bydd dysgwyr yn trosglwyddo i goleg gyda’u Cynllun Datblygu Unigol, a bydd y coleg yn gweithio gyda phob person ifanc i sicrhau fod y cynllun yn addas iddynt o fewn y cwrs y gwnaethant ei ddewis.

Dewis coleg addas ar gyfer pobl ifanc gyda ADY

Wrth gynghori ar goleg addas ar gyfer dysgwr gyda ADY, bydd ysgolion, Gyrfa Cymru, colegau ac awdurdodau lleol yn defnyddio’r Cod ADY fel eu canllaw wrth benderfynu’r ffordd orau i ddiwallu eu hanghenion.

Lle bynnag sy’n bosibl, mae’r Cod yn dweud y dylai pobl ifanc fedru mynychu eu haddysg ôl-16 a hyfforddiant yn lleol.

Mewn rhai achosion, efallai na fydd dysgwr yn medru sicrhau’r canlyniadau addysg a hyfforddiant a ddymunant yn lleol. Gall hyn fod oherwydd fod eu hanghenion mor gymhleth fel na fedrir canfod darpariaeth leol briodol. Gallant wedyn fynychu Sefydliad Ôl-16 Arbennig Annibynnol.

Mwy o wybodaeth

I gael mwy o wybodaeth ar ddarpariaeth coleg, ewch i wefan Braenaru ADY - www.braenaruady.cymru

Mae SNAP Cymru yn cynnig gwybodaeth, cyngor a chymorth rhad ac am ddim ac annibynnol i helpu cael yr addysg gywir ar gyfer pobl ifanc gydag anghenion dysgu ychwanegol a bydd yn eu helpu drwy’r broses pontio. Gallwch ganfod mwy o wybodaeth ar eu gwefan - www.snapcymru.org

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â:

Gwasanaeth ADY a Cynhwysiant

E-bost: ALNEnquiries@blaenau-gwent.gov.uk

Dogfennau Cysylltiedig

Pontio o’r ysgol i addysg ôl-16

Cefnogaeth I Bobl Ifanc Awtistig Yn Coleg Gwent