Mae'r Cyngor wedi cytuno ar gyllideb ar gyfer 2021/22 ac mae'n bwriadu buddsoddi cyfanswm o £157 miliwn i ddarparu gwasanaethau i bobl Blaenau Gwent. Bydd y gyllideb y cytunwyd arni yn cynyddu cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol (£1m), ysgolion (£1.47m) a Gwasanaethau Amgylcheddol (£0.68m) i ariannu pwysau costau, ac mae hefyd wedi cynyddu ei chyllideb ar gyfer y Cynllun Lleihau y Dreth Gyngor i £9.6m i ddarparu cymorth ariannol i drigolion lleol cymwys. Yn ogystal, mae'r Cyngor yn bwriadu cynyddu lefel y cronfeydd wrth gefn i gefnogi gwytnwch ariannol y Cyngor yn y tymor canolig.
Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf sy'n cychwyn ar 1 Ebrill 2021, mae CBS Blaenau Gwent wedi gosod cynnydd yn y Dreth Gyngor o 3.3%. Mae hyn ymhlith yr isaf ledled Cymru a dyma'r isaf yn ardal Gwent Fwyaf.
Wrth gytuno ar y cynnydd hwn, mae'n ddyletswydd ar y Cyngor i sicrhau cydbwysedd cyfrifol o ran amddiffyn gwasanaethau a swyddi, ond hefyd dangos bod ystyriaeth wedi'i rhoi i ddiogelu buddiannau ehangach trigolion lleol, y gallai llawer ohonynt fod yn profi anawsterau ariannol. Cred y Cyngor ei fod wedi gwneud hyn trwy gymeradwyo cynnydd o ddim ond 72c ac 84c yr wythnos ar eiddo Band A a Band B yn y drefn honno, sy'n cyfrif am oddeutu 85% o'r holl eiddo ym Mwrdeistref y Sir. Yn y tymor canolig, mae'r Cyngor yn parhau gyda'i raglen ariannol strategol, o'r enw Pontio'r Bwlch a fydd yn ei alluogi i gynllunio ei wariant yn unol â'i gyllid. O fewn y fframwaith hwn bydd y Cyngor yn edrych ar ffyrdd pellach o sicrhau costau is a chynyddu incwm, gan liniaru'r effaith ar wasanaethau ar yr un pryd.
Yn y tymor canolig, efallai na fydd y Cyngor yn gallu darparu'r holl wasanaethau y mae'n eu darparu ar hyn o bryd. Er enghraifft, gallai eraill ddarparu rhai gwasanaethau, er na ellir diystyru atal rhai gwasanaethau.
Fodd bynnag, i gydnabod pwysigrwydd y Cyngor fel y cyflogwr lleol mwyaf, bu ac fe fydd ymrwymiad i osgoi diswyddiadau gorfodol lle bynnag y bo modd, a bydd ymgynghori â staff ac undebau llafur yn parhau trwy gydol y cyfnod hwn. Yn flaenorol, mae'r Undebau Llafur ar y Cyd wedi canmol y Cyngor am yr ymgysylltiad hwn a'r modd cyfrifol y mae'r Gyllideb wedi'i gosod.
Datblygwyd cynigion cyllidebol ar gyfer 2021/2022 gan ddefnyddio dull “Un Cyngor” a gwerthuswyd grwpiau gwleidyddol ar wahanol gamau o'r broses gosod cyllideb.
Mae effaith y pandemig Coronafeirws wedi golygu bod 2020/21 wedi bod yn flwyddyn anodd i bawb, er ein bod yn gobeithio y bydd 2021/22 yn flwyddyn o fusnes fel arfer i lawer o'r gwasanaethau y mae'r Awdurdod yn eu darparu ar hyn o bryd. Fodd bynnag, gan nad yw'r grant a dderbynnir gan Lywodraeth Cymru yn talu holl gostau'r Cyngor, rhaid i rai costau ddisgyn yn uniongyrchol i dalwr y Dreth Gyngor lleol a dyma pam mae angen cynnydd yn lefel leol y Dreth Gyngor.
Bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cyllidebau’n agos trwy gydol 2021/2022 a bydd yn cynnal cyfres o adolygiadau ac ymgynghoriadau i lywio cynigion cyllideb y blynyddoedd i ddod.
Eich Bil Treth Gyngor 2021/2022
Cymhariaeth Amcangyfrif Gwariant Net ar gyfer 2020/2021 a 2021/2022
Portffolio |
2020/2021 |
2021/2022 |
% yn cynyddu |
£000 | £000 | ||
Gwasnathau Corfforaethol |
4,608 |
4,281 |
-7.10% |
Rheolaeth Ariannol a Strategaeth |
12,223 |
14,210 |
16.26% |
Gwasanaeth Cymdeithasol |
45,058 |
46,087 |
2.28% |
Isadeiledd |
5,184 |
5,254 |
1.35% |
Byw a Dysgu Gweithredol |
58,904 |
60,874 |
3.34% |
Economi |
1,233 |
1,550 |
25.71% |
Yr Amgylchedd |
15,777 |
16,424 |
4.10% |
Cynllunio A Thrwyddedu |
1,188 |
1,384 |
16.50% |
Arall |
7,259 |
7,068 |
-2.63% |
Cyfanswm y Gwariant Refeniw Net |
151,434 |
157,132 |
|
Cipolwg ar sut y caiff ei ariannau
Ffynhonnell Ariannu |
2021/2022 |
|
|
£000 |
% |
Y Dreth Gyngor |
36,771 |
23.4 |
Grant Cymorth Refeniw |
97,026 |
61.7 |
Cronfeydd wrth gefn |
0 |
0 |
Ardrethi Annomestig Cenedlaethol |
23,334 |
14.9 |
Cyfanswm |
157,131 |
100.0 |
Gwariant Cyfalaf
Yn 2021/2022 mae'r Cyngor yn amcangyfrif y bydd cyfanswm y Gwariant Cyfalaf yn:
2020/2021 | 2021/2022 | |
£000 | £000 | |
Gwasaneathau Eraill | £21,700 | £28,700 |
Cyfanswm | £21,700 | £28,700 |
Cronfeydd Ariannol Wrth Gefn Amcangyfrifedig
Cronfeydd Refeniw Wrth Gefn - amcangyfrifir bod cronfeydd wrth gefn penodedig yn £6.8 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn
Asesiadau Gwariant Safonol
Penderfynwyd ar Asesiad Safonol y Cyngor ar gyfer 2021/2022 gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru fel £151,083,000 (2020/2021 £145,116,000).
Gofyniad cyllideb yr Awdurdod am y flwyddyn yw £157,379,000 (2020/2021 £151,732,000)
Y Dreth Gynogor ar gyfer pob ardal 2021/2022
Band |
A |
B |
C |
D |
E |
F |
G |
H |
I |
Abertyleri |
1.398.04 |
1,631.04 |
1,864.05 |
2,097.06 |
2,563.08 |
3,029.08 |
3,495.10 |
4,194.12 |
4,893.14 |
Brynmawr |
1,387.76 |
1,619.06 |
1,850.35 |
2,081.65 |
2,544.24 |
3,006.82 |
3,469.41 |
4,163.30 |
4,857.19 |
Nantyglo & Blaenau |
1,391.70 |
1,623.66 |
1,855.61 |
2,087.56 |
2,551.46 |
3.015.36 |
3,479.26 |
4,175.12 |
4,870.98 |
Tredegar |
1,390.37 |
1,622.10 |
1,853.83 |
2,085.56 |
2,549.02 |
3,012.47 |
3,475.93 |
4,171.12 |
4,866.31 |
Glyn Ebwy/ Cwm/ Beaufort |
1,370.87 |
1,599.35 |
1,827.83 |
2,056.31 |
2,513.27 |
2,970.22 |
3,427.18 |
4,112.62 |
4,798.06 |
Praeseptau a Thollau
Mae'r cyrff canlynol â phraeseptau ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:
2020/2021 £ |
Cyfwerth â Band D £ |
2021/2022 £ |
Cyfwerth â Band D £ |
|
---|---|---|---|---|
5,640,022 | 272.96 | Comisiynydd Heddlue a Throseddu | 5,987,866 | 287.96 |
240,041 | 51.75 | Cyngor Tref Abertyleri a Llanhiledd | 190,000 | 40.75 |
43,000 | 25.44 | Cyngor Tref Brynmawr | 43,000 | 25.34 |
84,700 | 31.43 | Cyngor Nant-yglo a Blaenau | 84,700 | 31.25 |
138,401 | 29.42 | Cyngor Tref Tredegar | 138,401 | 29.25 |
Mae'r cyrff canlynol wedi codi'r symiau a nodwyd ar y Cyngor.
Sefydliad | 2020/2021 | 2021/2022 | % Cynnydd/Gostygiad yn amodol ar dalgrynnu |
---|---|---|---|
Parc Cenedlaethol Bannau Brychcheiniog | 29,200 | 32,130 | 10.03 |
Gorsaf Dân | 3,398,900 | 3,481,840 | 2.44 |
Llys y Crwneriaid | 103,750 | 107,630 | 3.74 |
Cyfanswm | 3,531,850 | 3,621,600 | 2.54 |
Dogfennau Cysylltiedig
Gwybodaeth Gyswllt
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Adran y Dreth Gyngor
Dros y ffôn - (01495) 355212
Drwy'r post- Adran y Dreth Gyngor, Adeiladau Trefol, Canolfan Ddinesig, Glynebwy, Gwent, NP23 6XB
E-bost : Ctax@blaenau-gwent.gov.uk