Esbonio’r Dreth Gyngor 2023

Esbonio’r Dreth Gyngor 2023

Mae’r Cyngor wedi cytuno ar gyllideb ar gyfer 2023/24, ac mae’n cynllunio buddsoddi cyfanswm o £182 miliwn i ddarparu gwasanaethau ar gyfer pobl Blaenau Gwent.

Bydd y gyllideb a gytunir yn cynyddu’r cyllid ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol (£4.5m), ysgolion (£2m), Addysg (£1m) a Gwasanaethau Amgylcheddol (£5m) i gyllido pwysau cost a geir fel canlyniad i’r argyfwng costau byw, gyda chwyddiant uchel a chynnydd mewn costau cyfleustod. Cadwyd y gyllideb ar gyfer y Cynllun Gostwng Treth Gyngor ar £10m i ddarparu cymorth ariannol i breswylwyr lleol cymwys.

Ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae’r Cyngor wedi cydnabod yr effaith a gaiff y cynnydd mewn costau byw ar gyllidebau aelwydydd sydd eisoes dan bwysau, ac mae wedi cytuno i gefnogi’r gyllideb gyda chyfraniad o gronfeydd wrth gefn o £4.2m. Mae hyn wedi galluogi’r Cyngor i leihau’r cynnydd yn y Dreth Gyngor a godir gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent i 3.45% ar gyfer 2023/24, un o’r cynnydd isaf yng Nghymru.

Bydd y Cyngor yn parhau i fonitro cyllidebau yn agos drwy gydol 2023/2024, ac ar gyfer y tymor canol, bydd y Cyngor yn parhau gyda’i raglen ariannol strategol a elwir yn Pontio’r Bwlch, fydd yn galluogi ei gynllunio ei wariant yn unol â’i gyllid. O fewn y fframwaith hon, bydd y Cyngor yn ei alluogi i gynllunio ei wariant yn unol â’i gyllid. O fewn y fframwaith hon, bydd y Cyngor yn edrych ar ffyrdd pellach i sicrhau gostyngiad mewn costau a chynyddu incwm, tra’n lliniaru’r effaith ar wasanaethau.

Caiff cynigion cyllideb ar gyfer blynyddoedd y dyfodol eu datblygu yn defnyddio dull gweithredu “Un Cyngor”, gan gynnal cyfres o adolygiadau ac ymgynghoriadau i lywio opsiynau.

 

Eich Bil Treth Gyngor 2023/2024

Cymharu Amcangyfrif Gwariant Refeniw Net 2022/2023 a 2023/2024.

             Portffolio

2022/ 2023

2023/ 2024

%   Cynnydd

 

£000

£000

 

Gwasanaethau Corfforaethol

18,922

18,633

-1.53%

Gwasanaethau Cymdeithasol

49,655

54,065

8.88%

Byw Llesol a Dysgu

65,014

69,011

6.15%

Economi

1,324

1,356

2.42%

Amgylchedd

24,715

29,260

18.39%

Cynllunio a Thrwyddedu

1,538

1,693

10.08%

Arall

6,544

7,832

19.68%

Cyfanswm Gwariant Refeniw Net

167,712

181,850

 

 

Sut y Cyllidir y Gyllideb

Cymharu Amcangyfrif Gwariant Refeniw Net 2022/2023 a 2023/2024

Ffynhonnell Cyllid

                          2023 / 2024

 

 

£000

%

Treth Gyngor

38,063

20.9

Grant Cymorth Refeniw

117,692

64.7

Cronfeydd wrth Gefn

4,057

2.2

Ardreth Annomestig Genedlaethol

22,038

12.1

Cyfanswm

181,850

100.0

 

Gwariant Cyfalaf

Yn 2023/2024 mae’r Cyngor yn amcangyfrif y bydd ei gyfanswm Gwariant Cyfalaf fel sy’n dilyn:

 

           2022/23

              2023/24

 

            £000

                 £000

Gwasanaethau Eraill

           73,260

               74,300

Cyfanswm

           73,260

               74,300

 

Amcangyfrif Cronfeydd Ariannol wrth Gefn

Cronfeydd wrth Gefn Refeniw – amcangyfrifir y bydd cronfeydd wrth gefn cyffredinol neilltuol yn sefyll ar £13.6 miliwn ar ddiwedd y flwyddyn.

Asesiadau Gwariant Safonol

Cafodd Asesiad Gwariant Safonol y Cyngor ar gyfer 2023/2024 ei benderfynu gan Senedd Cymru fel  £162,716 ar gyfer 2022/23 a £171,843 ar gyfer 2023/2024.

Gofyniad Cyllideb yr Awdurdod

Gofyniad cyllideb yr Awdurdod ar gyfer blwyddyn 2022/2023 yw £167,713 ac ar gyfer 2023/2024 yn £181,850.

 

Y Dreth Gyngor ar gyfer Pob Ardal 2023/2024

Band/ Cymuned

      A

    B

     C

    D

    E

    F

    G

     H

      I

Abertyleri a Llanhiledd

1477.64

1723.91

1970.19

2216.46

2709.01

3201.55

3694.10

4432.92

5171.74

Brynmawr

1452.85

1695.00

1937.14

2179.28

2663.56

3147.85

3632.13

4358.56

5084.99

Nantyglo a Blaenau

1458.44

1701.51

1944.59

2187.66

2673.81

3159.95

3646.10

4375.32

5104.54

Tredegar

1458.32

1701.37

1944.43

2187.48

2673.59

3159.69

3645.80

4374.96

5104.12

 Glynebwy /   Cwm /  Beaufort

1435.92

1675.24

1914.56

2153.88

2632.52

3111.16

3589.80

4307.76

5025.72

 

Praeseptiau ac Ardollau

Mae’r cyrff dilynol wedi gosod praesept ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

 

  2022/23

 Cyfwerth        Band D

  2023/24

 Cyfwerth       Band D

Heddlu Gwent

6,342,390

303.80

6,752,190

324.52

Cyngor Cymuned Abertyleri a Llanhiledd

289,000

62.10

289,000

62.58

Cyngor Tref Brynmawr

43,000

25.24

43,000

25.40

Cyngor Tref Nantyglo a Blaenau

84,700

31.17

91,170

33.78

Cyngor Tref Tredegar

138,401

29.17

159,161

33.60

 

 

 

Mae’r cyrff dilynol wedi gosod ardoll o’r symiau a nodir ar y Cyngor

Sefydliad

2022/2023

2023/2024

%   Cynnydd

Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog

32,130

32,130

0

Gwasanaeth Tân

3,547,672

3,953,469

11.44

Llys y Crwner

125,123

152,010

21.49

Cyfanswm

3,704,925

4,137,609

11.68