Hysbysiad Cosb Sefydlog – Rheoli Cŵn

Er mwyn cadw’r fwrdeistref sirol yn lân ac atal troseddwyr, mae’r Cyngor wedi awdurdodi Swyddogion Gorfodi Sifil i gyflwyno Hysbysiadau Cosb Benodedig (HCBau) am y troseddau canlynol:

  • Cŵn yn baeddu
  • Cŵn heb fod ar dennyn mewn llefydd cyhoeddus
  • Cŵn mewn parthau eithriedig (mae hyn yn cynnwys cŵn ar dennyn neu os oedd y ci’n cael ei gario)

Taliadau Hysbysiadau Cosb Benodedig

O 14eg Ebrill 2014 bydd troseddau a gyflawnwyd mewn perthynas â Rheoliadau Gorchmynion Rheoli Cŵn a Thaflu Sbwriel yn arwain at hysbysiad cosb benodedig o £125 yn cael ei gyflwyno. Bydd y gosb yn lleihau i £100 os telir hi o fewn 14 diwrnod, yn llai na’r mwyafswm statudol.

Talu Hysbysiad Cosb Benodedig

Gellir postio siec neu archeb bost at Y Tîm Gorfodi Rheng Flaen, Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glyn Ebwy NP23 6AA.

Gallwch wneud taliad cerdyn credyd neu ddebyd drwy ffonio 01495 311556 a dewis Opsiwn 4, rhwng 9am a 5pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Nid oes cyfleuster i sefydlu cynllun rhandaliadau neu dalu.

Os ydych wedi derbyn hysbysiad cosb benodedig gan Swyddog Cymorth yr ALl, talwch drwy'r dulliau canlynol.

Hysbysiad Cosb Benodedig Heb ei Thalu

Os na dderbynnir taliad o fewn chwe wythnos i’r drosedd yna bydd y Cyngor yn dwyn achos cyfreithiol.

herio’r Hysbysiad Cosb Benodedig neu os nad ydych yn gallu fforddio’r Gosb

  • Yr unig ffordd y gallwch herio’r hysbysiad yw drwy’r llys lle bydd ynad yn penderfynu a yw’r tocyn yn ddilys ai peidio
  • Os na allwch fforddio talu’r gosb bydd yn rhaid i chi fynd i’r llys lle, os ceir chi’n euog, gallai’r ynad, fel y barno’n ddoeth, gytuno ar gynllun talu
  • Er mwyn mynd i’r llys cwblhewch yr adran ar waelod y copi glas neu felyn a’i gyflwyno yn ôl y cyfarwyddyd
  • Nodwch, os gwelwch yn dda, y gallai fod costau llys ychwanegol

Gwneud cwyn ynghylch y modd y cyflwynwyd yr hysbysiad

Os oes gennych gŵyn ynghylch y modd y cyflwynwyd yr HCB, rhowch hi’n ysgrifenedig neu cyflwynwch hi ar-lein.

Gellir postio cwynion i Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen, Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur, Glynebwy, NP23 6AA

Gwybodaeth Gyswllt

Am wybodaeth bellach cysylltwch, os gwelwch yn dda, â

Tîm Gorfodaeth Rheng Flaen
Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent
Swyddfeydd y Cyngor
Canolfan Ddinesig
Glyn Ebwy
NP23 6XB 

Ffôn: 01495 357813
Ffacs: 01495 355834 

E-bost: environmental.health@blaenau-gwent.gov.uk