Pleidleisio drwy’r Post/drwy Ddirprwy

Mae’r gallu i bleidleisio drwy’r post ar gael i unrhyw un sydd wedi cofrestru i bleidleisio. 

Ymgeisio i Bleidleisio drwy’r Post

Os ydych chi wedi cofrestru i bleidleisio, gallwch gysylltu â ni i dderbyn ffurflen gais i bleidleisio drwy’r post yn y post. Bydd y ffurflen yn cynnwys rhai o’ch manylion yn barod. Bydd angen i chi gwblhau’ch dyddiad geni a llofnodi’r ffurflen. Mae’r manylion hyn yn cael eu gwirio pan rydych yn pleidleisio er mwyn atal twyll a diogelu’ch pleidlais. 

Os ydych yn penderfynu cofrestru i bleidleisio drwy’r post, ni allwch bleidleisio eich hun mewn gorsaf bleidleisio. 

Ymgeisio i Bleidleisio drwy’r Post pan mae Etholiad yn digwydd 

Rhaid derbyn ceisiadau i bleidleisio drwy’r post dim hwyrach na 5 p.m. un ar ddeg niwrnod gwaith cyn diwrnod yr etholiad. 

Ymgeisio i Bleidleisio drwy Ddirprwy 

Cysylltwch â ni i bleidleisio drwy ddirprwy, naill ai unwaith yn unig neu’n barhaol. 

Os rydych yn penodi dirprwy, gallwch dal i fynychu gorsaf bleidleisio a bwrw’ch pleidlais eich hun cyhyd â bod y dirprwy heb bleidleisio eisoes ar eich rhan neu wedi gofyn am bleidlais drwy’r post.

Gwybodaeth Gyswllt

Enw’r Tîm: Gwasanaethau Etholiadol

Rhif Ffôn:      01495 355086/88

Cyfeiriad:       Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol Gwaith Dur Glynebwy NP23 6DN

Cyfeiriad e-bost:   electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk