Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu 2021

Am yr etholiadau

Cafodd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu eu creu yn Lloegr a Chymru gan Ddeddf Diwygio’r Heddlu a Chyfrifoldeb Cymdeithasol 2011. Cynhaliwyd yr Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu cyntaf ar 15 Tachwedd 2012, gyda’r etholiadau dilynol ym mis Mai 2016.

Roedd yr Etholiad i fod i gael ei gynnal yn 2020; fodd bynnag, oherwydd COVID-19, cafodd ei ohirio i 6 Mai 2021.

Cynhelir yr Etholiadau Comisiynwyr Heddlu a Throseddu mewn 40 ardal heddlu yn Lloegr a Chymru (ac eithrio Llundain a Manceinion). Mae gan bob ardal un Comisiynydd Heddlu a Throseddu ar gyfer ei ardal heddlu.

Mae pedair ardal heddlu yng Nghymru, gyda phob ardal yn ethol Comisiynydd Heddlu a Throseddu. Y pedair ardal heddlu yng Nghymru yw:

• De Cymru
• Dyfed Powys
• Gogledd Cymru
• Gwent
Mae 5 ardal pleidleisio yn Ardal Heddlu Gwent:
• Blaenau Gwent
• Caerffili
• Casnewydd
• Sir Fynwy
• Torfaen

Michelle Morris yw Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu Gwent ar gyfer Etholiadau Comisiynydd Heddlu a Throseddu Mai 2011, ac mae’n gyfrifol am y ffordd y caiff yr etholiad ei gynnal yn cynnwys:

• cydgysylltu gyda Swyddogion Canlyniadau Lleol yn Ardal Heddlu Gwent
• rhoi hysbysiad o’r etholiad
• y drefn enwebu
• hybu cyfranogiad
• sicrhau bod cynnwys areithiau etholiadol a gweithdrefnau cyflwyno’r anerchiadau hyn yn cydymffurfio â’r gofynion
• coladu cyfansymiau lleol a chyfrifo’r canlyniad
• datgan y canlyniad

Mae’r Swyddogion Canlyniadau Lleol yn gyfrifol o fewn eu hardal bleidleisio eu hunain am:

• sicrhau bod yr etholiad yn cael ei weinyddu’n effeithlon
• darpariaethau’r gorsafoedd pleidleisio
• argraffu papurau pleidleisio
• y ffordd y mae’r etholiad yn cael ei gynnal
• penodi staff gorsafoedd pleidleisio
• rheoli’r broses bleidleisio drwy’r post
• y dilysu a’r cyfrif yn eu hardal bleidleisio
• trosglwyddo’r cyfansymiau lleol i Swyddog Canlyniadau’r Ardal Heddlu

I gael mwy o wybodaeth am rôl Comisiynydd Heddlu a Throseddu gweler  https://www.gwent.pcc.police.uk/en/home/

Rôl y Comisiynydd Heddlu a Throseddu

Mae’r Comisiynydd Heddlu a Throseddu yn gyfrifol am:

• Dal yr Heddlu i gyfrif
• Penodi Prif Gwnstabliaid a’u diswyddo (os oes angen)
• Gosod cyllidebau’r heddlu
• Gosod y swm y mae pobl yn ei dalu fel rhan o’r Dreth Gyngor tuag at blismona
• Gosod blaenoriaethau plismona’r ardal leol
• Goruchwylio sut yr eir i’r afael â throseddu yn yr ardal a gosod amcanion i sicrhau bod yr heddlu yn darparu gwasanaeth da
• Cwrdd ac ymgynghori â’r cyhoedd yn rheolaidd i wrando ar eu barn ynghylch plismona
• Creu cynllun heddlu a throseddu sy’n nodi’r blaenoriaethau plismona lleol
• Penderfynu sut caiff y gyllideb ei gwario

Dogfennau Cysylltiedig

Gwybodaeth Cyswllt

Gwasanaethau Etholiadol

Rhif Ffôn:  01495 355086/88
Y Swyddfeydd Cyffredinol, Heol y Gwaith Dur, Glynebwy NP23 6DN
Cyfeiriad E-bost:   electoralservices@blaenau-gwent.gov.uk