Cysylltwyr Cymunedol

Ydych chi'n adnabod rhywun sydd ar wahân i'w cymuned neu deulu? Rhywun heb lawer o hyder? Rhywun sy'n unig?

Os ydych, yna gallwch helpu

Mae gan Gyngor Blaenau Gwent nifer o 'Gysylltwyr Cymunedol' sy'n gweithio ym mhob rhan o'r Fwrdeisdref i ailgysylltu pobl yn ôl i'w cymunedau. Mae Cysylltwyr Cymunedol hefyd yn gweithio gyda llawer o grwpiau a sefydliadau o fewn cymunedau i helpu pobl i ddod o hyd i weithgareddau a grwpiau a all fod i fudd i'w lles eu hunain.

Nod Cysylltwyr Cymunedol yw cefnogi pobl i:

  • Parhau mor annibynnol ag sydd modd
  • Gwella eu hymdeimlad o lesiant
  • Teimlo'n llai unig
  • Teimlo'n rhan o'u cymuned
  • Canfod gwybodaeth a chyngor 

Gall Cysylltwyr Cymunedol hefyd weithio o fewn cymunedau i gynnig cyngor ac arweiniad i bobl leol am sut y gallant ddefnyddio eu cryfderau, sgiliau a phrofiadau eu hunain i helpu eraill.

Os na allwn ni helpu, byddwn yn gwybod am rywun a all!!

I siarad gyda rhywun am eich Cynllun Cysylltydd Cymunedol, cysylltwch â: 01495 315700
Ebost: communityconnectors@blaenau-gwent.gov.uk

Cwrdd â'r Tîm

Edrychwch ar ein taflen 'Cwrdd â'r tîm' fel y gallwch ddod i adnabod ein Cysylltwyr Cymunedol.

Mathau o grwpiau y gallwn eich cysylltu â nhw:

  • Ymarfer Ysgafn
  • Turnio Pren
  • Grwpiau Cinio
  • Dawnsio'r Hen Ddyddiau
  • Grwpiau Crefft
  • Den Dynion
  • Gwydr Lliw
  • Grwpiau Coffi
  • Grwpiau Gweu

Hoffech chi wybod sut ydym wedi helpu pobl hyd yma? Edrychwch ar ein tudalen 'Sut y gwnaethom helpu'.

Gwybodaeth Gyswllt

I gael mwy o wybodaeth cysylltwch â Cyswllt Blaenau Gwent (C2BG) ar 01495 315700.

E-bost: communityconnectors@blaenau-gwent.gov.uk
DutyTeamAdults@blaenau-gwent.gov.uk