Mae cyngor a chymorth ariannol ar gael gan lawer o sefydliadau
Dogfennau Cysylltiedig
Help for Households – Cymorth y gallech fod yn gymwys amdano ar gyfer costau byw
Mae’r Gwasanaeth Sifil wedi lansio ymgyrch Help for Households i dynnu pecynnau cymorth ynghyd sy’n helpu i liniaru effaith yr argyfwng costau byw. Mae 41 cynllun ar gael i gefnogi dinasyddion, ac mae’r cyfan ar gael ar wefan newydd Help for Households.
Gallech fod yn gymwys am ystod o fesurau y mae’r Llywodraeth yn eu cynnig i helpu gyda chostau byw. Gallwch ganfod pa gymorth sydd ar gael drwy fynd i’r wefan.
Hybiau Cymunedol
Mae’r Hybiau Cymunedol a gaiff eu rhedeg gan Gyngor Blaenau Gwent yn gweithredu mewn 7 lleoliad ar draws y fwrdeistref.
Gallant helpu gyda phob elfen o fywyd cymunedol yn cynnwys cynlluniau a gostyngiadau treth gyngor, gwybodaeth a chyngor ar fudd-daliadau, gwneud cais am fathodyn glas a llawer mwy o gyfleoedd i’ch helpu i arbed arian lle gallwch.
Dewch o hyd i’ch Hyb agosaf a’i oriau agor yma.
Yn cychwyn ddydd Llun 12 Rhagfyr, mae Cyngor Ar Bopeth yn darparu gwasanaethau wythnosol yn yr Hybiau Cymunedol 9.30am – 12.30-pm ar y dyddiau dilynol:
Dyddiau Llun – Tredegar
Dyddiau Mawrth – Glynebwy
Dyddiau Mercher – Abertyleri
Dyddiau Iau – Blaenau
Dyddiau Gwener – Cwm
Disgownt a Gostyngiadau Treth Gyngor
Mae’r Dreth Gyngor yn un o’r biliau misol mwyaf ar gyfer y rhan fwyaf o gartrefi.
Mae llawer o gynlluniau i helpu llacio’r pwysau arbennig hwn gyda gostyngiadau os mai un unigolyn sy’n byw yn y cartref, cymorth i rai gydag anabledd meddwl neu gorfforol, gofalwyr ac aelwydydd incwm isel.
Mae mwy o wybodaeth hefyd ar gael ar wefan y Cyngor.
Treth Cyngor | Blaenau Gwent CBC (blaenau-gwent.gov.uk)
Taliadau Tai Dewisol
Os ydych yn derbyn Budd-dal Tai neu Elfen Tai y Credyd Cynhwysol ond yn dal i’w chael yn anodd talu eich rhent, gallwch wneud cais am Daliad Tai Dewisol.
Cysylltwch â: benefits@blaenau-gwent.gov.uk i gael mwy o gyngor.
Gall eich plentyn fedru cael prydau ysgol am ddim os ydych yn derbyn unrhyw un o’r dilynol:
- Cymhorthdal Incwm
- Lwfans Ceisiwr Gwaith Seiliedig ar Incwm
- Lwfans Cyflogaeth a Chymorth Cysylltiedig ag Incwm
- Cymorth dan Ran VI Deddf Mewnfudo a Lloches 1998
- Credyd Treth Plant (gydag incwm blynyddol o lai na £16,190)
- Elfen gwarant Credyd Pensiwn
- Ategiad Credyd Treth Gwaith – telir am 4 wythnos pan fyddwch yn peidio bod yn gymwys am Gredyd Treth Gwaith
- Credyd Cynhwysol gydag incwm aelwyd net o lai na £7,400 (£616.67 y mis)
Gallwch gael mwy o wybodaeth a gwneud cais am y cynllun drwy anfon e-bost at benefits@blaenau-gwent.gov.uk
Gall dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim ar hyn o bryd wneud cais am grant o £225 ar gyfer pob dysgwr, a £300 ar gyfer y dysgwyr hynny sy’n dechrau ar flwyddyn 7.
Mae’r cynllun ar agor o 1 Gorffennaf 2022 ac yn cau ar 30 Mehefin 2023.
Gallwch ofyn am fwy o wybodaeth a gwneud cais heddiw drwy e-bost:
Os cawsoch eich geni ar neu cyn 25 Medi 1956 gallech gael rhwng £250 a £600 i’ch helpu i dalu eich biliau gwresogi.
Ni fydd angen i chi hawlio eto os ydych wedi derbyn taliad Tanwydd Gaeaf o’r blaen.
Caiff y rhan fwyf o daliadau eu gwneud yn awtomatig ym mis Tachwedd neu fis Rhagfyr.
£200 Cynllun Cymorth Tanwydd Gaeaf Cymru
Bydd aelwydydd sy’n gyfrifol am dalu eu biliau ynni cartref ac sy’n derbyn budd-dal cymwys rhwng 1 Medi 2022 a 31 Ionawr 2023 yn derbyn £200 yn Hydref/Gaeaf 2022/2023.
Rydych yn gymwys os ydych yn derbyn elfen credyd gwarant y Credyd Pensiwn neu os ydych ar incwm isel ac yn diwallu meini prawf eich cyflenwr ynni ar gyfer y cynllun.
Os yw eich cais yn llwyddiannus, bydd eich cyflenwr trydan yn gweithredu’r gostyngiad ar eich bil erbyn 31 Mawrth 2023.
Dau fath o grant nad yw’n rhaid i chi eu had-dalu.
Mae’r Taliad Cymorth Argyfwng (EAP) yn grant i helpu talu am gostau hanfodol tebyg i fwyd, nwy, trydan, dillad neu deithio argyfwng os ydych:
- â phrofiad o galedi ariannol eithafol
- wedi colli eich swydd
- wedi gwneud cais am fudd-daliadau ac yn aros am eich taliad cyntaf.
Mae’r Taliad Cymorth Unigol i’ch helpu chi neu rywun y gofalwch amdanynt i fyw’n annibynnol yn eu cartref neu eiddo y maent yn symud iddo.
Caiff y grant ei ddefnyddio i dalu am:
- Oergell, ffwrn, peiriant golchi a nwyddau gwyn eraill
- Celfi cartref tebyg i welyau, soffas a chadeiriau.
Os ydych yn cael trafferth i fforddio talu eich bil, mae gan Dŵr Cymru nifer o ffyrdd y gallant eich helpu chi a gwneud eich biliau yn fforddiadwy.
Grant £200 i Gyn Lowyr
Mae cyn lowyr yn gymwys am grant o £200 i helpu gyda’r cynnydd ym mhrisiau ynni.
Daw’r grant gan Sefydliad Llesiant Cymdeithasol y Diwydiant Glo (CISWO).
I gael mwy o wybodaeth am y grant cysylltwch â swyddfa CISWO Cymru drwy ffonio 01443 485233 neu anfon e-bost at wales@ciswo.org.uk.
Y Banc Bwyd Banc Bwyd Blaenau Gwent | Helpu Pobl Leol mewn Argyfwng
Ymddiriedolaeth Trussell sy’n rhedeg y rhwydwaith mwyaf o fanciau bwyd yn y Deyrnas Unedig, gan ddarparu bwyd a chymorth i bobl mewn argyfwng.
Maent yn gweithio gydag asiantaethau lleol er mwyn darparu’r help mwyaf priodol ar gyfer amgylchiadau eich sefyllfa.
Gall fod yn anodd weithiau i fynd i’r afael â phroblemau arian, ond os nad ydych yn deall sut mae pethau fel credydau neu forgeisiau yn gweithio, gallech fod ar eich colled yn ariannol neu fynd i ddyled ddwfn.
Gall Cyngor Ar Bopeth roi’r wybodaeth rydych ei hangen i wneud y penderfyniadau cywir.
Cyngor Age Cymru
Mae Cyngor Age Cymru yn cynnig gwasanaeth cymorth am ddim, cyfrinachol a diduedd. Gallant helpu pobl hŷn, eu teuluoedd, ffrindiau, gofalwyr a gweithwyr proffesiynol gyda gwybodaeth a chyngor ar faterion sy’n effeithio ar bobl hŷn.
I gael mwy o wybodaeth ffoniwch 0300 303 398 rhwng 9:00am a 4:00pm, dydd Llun i ddydd Gwener neu anfon e-bost at advice@agecymru.org.uk
Mae Gofal a Thrwsio yn darparu gwybodaeth, cyngor a gwasanaethau ymarferol sy’n helpu pobl hŷn yng Nghymru i gadw’n ddiogel, cynnes ac iach yn eu cartrefi eu hunain. Maent yn gosod cymhorthion ac addasiadau anabledd, gwasanaethau cynnal a chadw i gartrefi, helpu i gynyddu incwm a chael mynediad i grantiau, a gwneud cartrefi’n ddiogel i ddychwelyd iddynt o ysbyty.
l ganfod mwy ffoniwch 0300 111 3333, croesawir galwadau yn Gymraeg. Hyd yn oed os credwch na fyddech yn gymwys fel arfer am gymorth ariannol gallech yn awr fod yn gymwys am help gyda chostau byw dydd i ddydd.
I gael archwiliad cartref iach AM DDIM, ffoniwch eich Gofal a Thrwsio lleol heddiw ar:
0300 111 3333
Mae MoneyHelper ar agor i bawb a gall helpu pobl i glirio eu dyledion, gostwng gwariant a gwneud y mwyaf o’u hincwm.
Maent yn rhoi arweiniad diduedd ac am ddim am arian ac os nad ydynt yn gwybod yr ateb, byddant yn eich cyfeirio at rywun sydd yn gwybod.
Undebau Credyd, chynilon a benthyciadau cymunedol lleol
Mae undebau credyd yn cynnig dewis heblaw banciau a chymdeithasau adeiladu traddodiadol ar gyfer cynilo a benthyca. Gallant weithiau gynnig cyfraddau gwell na’r stryd fawr.
Mae undeb credyd yn ddarparydd cynilion a benthyciadau cymunedol.
I ganfod mwy am undebau credyd,
www.moneysavingexpert.com/loans/credit-unions
Mae banciau cymunedol fel Smart Money Cymru yn sefydliadau ariannol dim-er-elw a gaiff yn aml eu sefydlu gan aelodau gyda’r hyn a elwir yn gwlwm cyffredin i gynnig arbedion a benthyciadau.
Mae Smart Money Cymru yn darparu benthyciadau fforddiadwy a gwytnwch ariannol gydag amrywiaeth o gyfrifon cynilo, gweithio gyda rhanddeiliaid ar draws Cymru, darparu addysg ariannol a chefnogi a chyfrannu at achosion da.
Money Saving Expert
Mae gan MoneySavingExpert.com, y wefan a sefydlwyd gan Martin Lewis, ddewis eang o help a chyngor.
Cofrestrwch i dderbyn cylchlythyr wythnosol am ddim yn cynnwys yr holl awgrymiadau a chynghorion diweddaraf:
www.moneysavingexpert.com/latesttip