Budd-daliadau Ar-lein

Budd-dal Tai a Gostwng Treth Gyngor ar-lein

Mae’n rhwydd ac yn gyflym rheoli eich Budd-dal Tai a’ch Gostyngiad Treth Gyngor ar-lein.

Gallwch:

  • Gwneud cais am Fudd-dal Tai a/neu Ostyngiad Treth Gyngor ar-lein, 24/7 ar amser sy’n gyfleus i chi. Gofynnir i chi nodi y defnyddir yr un cais ar gyfer y ddau ac mai dim ond unwaith sydd angen i chi ei lenwi.
  • Ein hysbysu am unrhyw newid amgylchiadau a all effeithio ar eich hawl tebyg i newid cyfeiriad.
  • Gyda ffurflenni syml a’r gallu i lanlwytho tystiolaeth o ddyfeisiau tebyg i liniaduron, ffonau clyfar a llechi ac yn y blaen, mae’r broses yn gyflym ac effeithiol

Beth fyddwch chi angen? 

  • Eich rhif hawlio Budd-dal Tai/Gostyngiad Treth Gyngor i’n hysbysu am newid cyfeiriad, newid amgylchiadau, cofrestru am lythyrau ar-lein a gweld eich llythyrau ar-lein.
  • Caiff eich rhif hawlio Budd-dal Tai/Gostyngiad Treth Gyngor ei gynnwys yn ein holl lythyrau a anfonir atoch. Os ydych yn cael anawsterau, edrychwch ar yr adran Ydych chi angen help? isod.

Cyn cychwyn arni

Fel arfer bydd yr Adran Budd-daliadau yn gwneud penderfyniad o fewn 14 diwrnod. Byddant yn cysylltu â chi os ydynt angen mwy o wybodaeth.

Gallwch gadw a mynd yn ôl at eich cais yn ddiweddarach os oes angen i chi.


Ydych chi angen help?

Ar gyfer cwestiynau am Fudd-dal Tai a Gostyngiad Treth Gyngor neu os ydych yn cael unrhyw broblemau gyda’n gwasanaeth ar-lein, cysylltwch â’r Adran Budd-daliadau ar 01495 311556, neu anfon e-bost at: benefits@blaenau-gwent.gov.uk

Dechrau Nawr