Ysgolion i fwynhau cynllun ‘Bwyd a Hwyl’ a gynhelir ledled Cymru yn ystod gwyliau’r haf

Cynhelir cynllun poblogaidd ‘Bwyd a Hwyl’ mewn chwech ysgol ym Mlaenau Gwent yr haf hwn, gan roi cyfle i bobl ifanc gymdeithasu, bod yn actif a mwynhau prydau iach a maethlon.

Mae ‘Bwyd a Hwyl’ yn rhaglen seiliedig mewn ysgolion a gyllidir gan Lywodraeth Cymru a’i chydlynu gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Caiff y cynlluniau eu cyflwyno’n lleol gan yr Awdurdod Lleol, staff ysgolion ac amrywiaeth o bartneriaid i roi amgylchedd cymdeithasol hwyliog yn ystod gwyliau haf  ysgolion. Ym Mlaenau Gwent rydym yn gweithio gyda phartneriaid yn cynnwys Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin a Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.

Mae Blaenau Gwent yn cyflwyno ethos Bwyd a Hwyl mewn chwech ysgol ar draws y fwrdeistref eleni:
• Cymuned Ddysgu Abertyleri (Campws Heol Roseheyworth)
• Ysgol Gynradd Blaen-y-Cwm
• Ysgol Gynradd Bryn Bach
• Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen
• Ysgol Gynradd Sant Illtud
• Ysgol Gynradd Trehelyg

Disgwylir y bydd tua 260 o ddisgyblion yn cymryd rhan yn y rhaglen, fydd yn rhedeg am 12 diwrnod rhwng 22 Gorffennaf a 6 Awst 2021.

Mae’r gweithgareddau sydd eraill wedi eu trefnu yn cynnwys dawns, addysg eco, coginio gyda’n gilydd, ac amrywiaeth o ddarparwyr chwaraeon tebyg i bowls, criced, pêl-rwyd, Academi Sglefrfyrddio a Taekwondo.

Staff o’r ysgolion sy’n cymryd rhan sy’n arwain y rhaglen, gyda chefnogaeth gan y Cyngor ar gyfer arlwyo a glanhau. Mae plant yn cael brecwast a chinio iach a snaciau maethlon fel rhan o’r diwrnod.

Caiff y plant eu dysgu sut i goginio prydau sylfaenol iach ac am fanteision maeth bwyta’n iachach a bod yn fwy actif yn gorfforol mewn lleoliad sy’n gyfarwydd i’r plant gan eu galluogi i ryngweithio’n gymdeithasol mewn amgylchedd hwyliog a hamddenol.

Cynhelir asesiadau risg COVID ar bob safle ysgol a chaiff rhieni y rhai sy’n mynychu eu hatgoffa’n barhaus am ddilyn mesurau atal heintiad, i gadw golwg am symptomau ac i beidio anfon unrhyw blant sy’n teimlo’n wael neu sy’n ynysu fel cyswllt.

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Mae’r cynllun ‘Bwyd a Hwyl’ yn ffordd hwyliog a diddorol i gadw plant yn hapus, iach ac actif yn ystod gwyliau’r haf, ac yn y gorffennol gwelsom adborth gwych gan y plant a theuluoedd a gymerodd ran. Dyna pam fy mod mor falch, gydag ychydig o fireinio ar fesurau diogelwch COVID, y gallwn gynnig y cynllun yma ym Mlaenau Gwent unwaith eto eleni, ac i fwy o blant y tro hwn.

“Rwy’n credu fod plant wirioneddol angen cynlluniau fel hyn i edrych ymlaen atynt wrth i ni ddechrau cael adferiad o effeithiau’r pandemig. Diolch i bawb a wnaeth hyn yn bosibl a gobeithio y caiff pawb amser gwych!

Dywedodd Gareth Winmill, Rheolwr Datblygu Chwaraeon Ymddiriedolaeth Hamdden Aneurin:

"Mae hon yn rhaglen wych sy’n rhoi cefnogaeth amhrisiadwy i blant a theuluoedd yn ystod y gwyliau. Mae’n rhoi cyfle i blant ddysgu a chael hwyl tra’n cymryd rhan yn y llu o wahanol weithgareddau a roddir i helpu gwella eu llesiant corfforol a meddyliol.

“Mae fy nhîm a finnau’n canfod nad dim ond plant sy’n manteisio o’r rhaglen; mae hefyd yn werth chweil iawn i gymryd rhan.”

Dywedodd Pennaeth Ysgol Gynradd Rhos-y-Fedwen, Glynebwy, Keri Smith:

“Mae hwn yn gyfle hollol wych i’n dysgwyr gael profiadau newydd. Cawsom y pleser o gymryd rhan yn Bwyd a Hwyl o’r blaen a bob dydd bydd amrywiaeth o arbenigwyr a darparwyr yn ymweld â’r ysgol i gyflwyno gweithdai sesiynau cyffrous a diddorol tebyg i chwaraeon a gemau awyr agored, bioamrywiaeth a chynaliadwyedd, sglefrfyrddio, celf graffiti a choginio. Bydd sesiynau bwyd a maeth bob dydd, gan addysgu plant sut i gadw eu hunain yn iach drwy wneud dewisiadau bwyd da.

“Os ychwanegwch frecwast a chinio blasus bob dydd at hynny, gallwch weld pam ein bod bob amser wrth ein bodd i gynnig safle’r ysgol i gefnogi ein plant a theuluoedd i gael mynediad i’r cynllun gwych yma.”

Mae’r ysgolion sy’n cymryd rhan wedi cysylltu’n uniongyrchol gyda theuluoedd am ddisgyblion yn defnyddio’r cynllun.