Ysgolion Cyfeillgar i Ddraenogod

Ar 23 Mawrth cysylltodd Jo o’r Campws Cyfeillgar i Ddraenogod â’n Swyddog Bioamrywiaeth i holi os dymunai ysgolion cynradd o fewn Blaenau Gwent fod yn rhan o brosiect prawf i ddod yn Ysgolion Cyfeillgar i Ddraenogod. Rodd gan y prosiect prawf 20 lle i’w llenwi ac erbyn diwedd y diwrnod cyntaf roedd ysgolion cynradd Blaenau Gwent wedi llofnodi ar gyfer 6 lle ac aeth eraill ar y rhestr wrth gefn. Mae gennym bellach 8 o’r 20 lle yn y cynllun peilot cenedlaethol hwn.

Mae timau (yn cynnwys staff a disgyblion o Ysgol Gynradd Coed-y-Garn, Ysgol Gynradd Deighton, Ysgol Gynradd Rhiw Beaufort, Ysgol Gynradd Sant Illtud, Ysgol Gynradd Sant Joseff,  Ysgol Gynradd Rhos y Fedwen, Ysgol Gynradd Sofrydd ac Ysgol Gynradd Trehelyg i gyd nawr yn cymryd camau ychwanegol i wneud tir eu hysgolion yn lleoedd gwell a mwy diogel ar gyfer yr anifeiliaid rhyfeddol yma.

"Mae Ysgolion Cyfeillgar i Ddraenogod yn cael eu cyllido gan Gymdeithas Cadwraeth Draenogod Prydain gyda’r nod o wneud ysgolion cynradd Prydain yn fwy diogel a chroesawgar i ddraenogod. Mae draenogod yn awr mewn sefyllfa fregus iawn ym Mhrydain, gyda gostyngiad o hyd at 50% ers dechrau’r mileniwm oherwydd colli cynefinoedd a datblygiad, ffyrdd a pheryglon gerddi. Maent angen yr holl help y gallant ei gael!”

Rydym wrth ein bodd y cofrestrodd wyth ysgol gynradd ym Mlaenau Gwent i gymryd rhan. Mae’r ysgolion yn rhan o flwyddyn brawf gyfyngedig ac maent eisoes wedi bod yn cynnal arolygon o ôl-traed draenogod a chamera bywyd gwyllt, casglu sbwriel, pannu planhigion cyfeillgar i ddraenogod a gwneud eu pwt i godi ymwybyddiaeth yn eu cymuned leol am y gostyngiad yn nifer draenogod.

Cysylltwch â @hogfriendly Jo Wilkinson Campws Cyfeillgar i Ddraenogod

Fel rhan o brosiect Gwent Gydnerth a gyllidir gan Lywodraeth Cymru, bu Cyngor Blaenau Gwent hefyd yn cynnal prosiect bioamrywiaeth trefol gyda Tai Pobl a phobl o fewn ein cymuned leol. Mae’n gyffrous gweld cymaint o frwdfrydedd gan ein hysgolion cynradd i’n cefnogi i gymryd camau i wella lleoedd ar gyfer natur ble bynnag y gallwn a gwneud Blaenau Gwent yn well ar gyfer bioamrywiaeth.

‘Rwyf eisoes wedi dysgu llawer o bethau diddorol newydd yn cynnwys y ffaith fod coed cyfeillgar i ddraenogod. Mae gan goed Ffawydd, Derw, Ceirios a Chyll i gyd ddail o’r siâp cywir i ddraenogod adeiladu eu nythod. Rhyfeddol.

Rwyf eisoes yn edrych ymlaen at weithio gyda’r ysgolion a’r gymuned ehangach i helpu’r creaduriaid bendigedig yma’. Becky Ward @BeckyEco_Ed

I gael mwy o wybodaeth ar ddraenogod, ffyrdd i gymryd rhan a chamau gweithredu, edrychwch ar-lein ar https://www.hedgehogstreet.org/   a mynd i @hogfriendly lle gall pobl ganfod mwy am yr hyn sy’n digwydd ar draws Prydain.