Ysgol gynradd newydd 360 lle yng Nglynebwy yn cael caniatâd cynllunio

Ysgol gynradd newydd 360 lle yng Nglynebwy yn cael caniatâd cynllunio.

Bydd y Cyngor yn awr yn mynd ati i sicrhau contractwr ar gyfer y datblygiad drwy broses tendr.

Mae’r prosiect yn ganlyniad gwaith partneriaeth rhwng y Cyngor a Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Ysgolion yr 21ain Ganrif, a gynlluniwyd i fuddsoddi yn y stad ysgolion ar draws Cymru. Mae hyn yn rhan o Fand B rhaglen Blaenau Gwent, sy’n rhedeg tan 2025, a bydd yn gweld buddsoddiad yn y rhanbarth o tua £26m yn y stad ysgolion yn lleol, yn cynnwys ysgol gynradd Gymraeg newydd.

  • Amcanion Rhaglen Band B Ysgolion 21ain Ganrif yw mynd i’r afael â’r blaenoriaethau dilynol:
  • Codi safonau, yn neilltuol ar Gyfnod Allweddol 4
  • Gwella addasrwydd a chyflwr y stad ysgolion
  • Dichonoldeb rhaglen – arian cyfatebol a fforddiadwyedd
  • Cynaliadwyedd a gostwng costau refeniw
  • Cynyddu cyfleoedd i ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg
  • Diwallu anghenion dysgwyr bregus
  • Bod â’r ysgolion cywir yn y lleoedd cywir

Dywedodd y Cynghorydd Joanne Collins, Aelod Gweithredol Addysg:

“Mae darparu’r safonau addysgol a’r cyfleoedd addysgu a dysgu gorau, yn ogystal â gofalu am lesiant ein plant a phobl ifanc, yn parhau i fod yn brif flaenoriaethau i ni. Rhan o hyn yw gwneud yn siŵr y gall dysgwyr gael mynediad i’r cyfleusterau modern gorau oll.

"Mae gennym hanes o lwyddiant mewn gweithio’n agos gyda’n partneriaid yn Llywodraeth Cymru i gyflawni ar brosiectau sy’n galluogi ein disgyblion i gael mynediad i amgylcheddau dysgu modern a diddorol er mwyn iddynt ffynnu a chyrraedd eu potensial llawn.

“Rwy’n falch fod y Pwyllgor Cynllunio wedi rhoi caniatâd fel y gall y datblygiad cyffrous hwn symud ymlaen a rhoi ysgol fodern newydd sbon i’r plant a staff ysgol yn yr ardal honno i edrych ymlaen ati.”