Ysgol Gynradd Coed-y-Garn yn dathlu adroddiad arolwg

Mae disgyblion a staff Ysgol Gynradd Coed-y-Garn yn y Blaenau yn dathlu adroddiad arolwg rhagorol a ddisgrifiodd yr ysgol fel “cynnes a chynhwysol”.

Daeth yr adroddiad, yn dilyn ymweliad diweddar gan ESTYN, i’r casgliad fod gan yr ysgol awyrgylch ac ethos cadarnhaol, gyda staff a disgyblion yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi; disgyblion yn mwynhau dysgu, yn frwdfrydig a gyda pherthynas gref iawn gyda’u hathrawon a staff eraill. Mae’r pennaeth yn rhoi arweinyddiaeth gryf ac effeithlon, gan rannu cyfrifoldebau ymysg staff, gyda llywodraethwyr a staff yn arddangos caredigrwydd, parch ac agweddau cadarnhaol tuag at eraill ac at eu dysgu.

Gan gydnabod yr ymarfer rhagorol yn y Ganolfan Adnoddau Dysgu, gofynnwyd i’r ysgol ysgrifennu astudiaeth achos ar ei gwaith yng nghyswllt effaith addysgu a defnydd yr amgylchedd dysgu i hyrwyddo profiadau dysgu dilys yn ei ganolfan adnoddau dysgu ar gyfer gwefan Estyn.

Dywedodd Lauren Cairns, Pennaeth yr Ysgol:

“Rwyf wrth fy modd fod Estyn wedi cydnabod ein hymrwymiad i lesiant a chefnogi dysgwyr yng Nghoed-y-Garn, mae eu canfyddiadau yn adlewyrchu gwaith caled ac ymroddiad pawb. Mae’n fraint enfawr bod yn bennaeth Coed-y-Garn, ac rwyf mor falch o’r plant a’r staff sy’n rhoi eu gorau ym mhopeth a wnânt.”

Ychwanegodd y Parch Roy Watson, Cadeirydd y Llywodraethwyr:

“Mae’r llywodraethwyr yn cymryd rhan fawr mewn rhannu’r weledigaeth sydd gan y pennaeth a’r staff ar gyfer yr ysgol ac maent yn hollol gefnogol i ddarparu pob agwedd o’r cwricwlwm. Hoffwn ddiolch i’r cyrff llywodraethu am eu cyfraniadau gwirfoddol i fywyd yr ysgol, ac i’r pennaeth a’r staff am eu hymroddiad i blant Coed-y-Garn.”

Dywedodd y Cynghorydd Sue Edmunds, Aelod Gweithrediaeth Pobl ac Addysg Cyngor Blaenau Gwent:

“Am adroddiad gwych i Ysgol Gynradd Coed-y-Garn! Dylai pawb yn yr ysgol a chymuned ehangach yr ysgol deimlo’n falch iawn o’r adroddiad hwn. Da iawn chi.

“Rydym eisiau i’n holl blant a phobl ifanc ffynnu a chyflawni eu potensial llawn, a rydym yn ymroddedig i weithio gyda phob ysgol i ddarparu cyfleoedd addysgu a dysgu ansawdd uchel.”

Gallwch ddarllen adroddiad llawn yr arolwg yma: - https://www.estyn.llyw.cymru/darparydd/6772313