Ymgyrch newydd yb galw ar berchnogion cŵn I adael ‘Adael olion pawen yn yn unig’

Cyngor Blaenau Gwent yn ymuno ag ymgyrch newydd i fynd i’r afael â baw cŵn.

Cyngor Blaenau Gwent yn annog perchnogion cŵn i wneud y peth iawn a chodi baw eu hanifeiliaid anwes fel rhan o ymgyrch cenedlaethol newydd gan Cadwch Gymru’n Daclus.

Er yr amcangyfrifir bod naw allan o ddeg o berchnogion cŵn yn glanhau ar ôl eu hanifeiliaid anwes, mae baw ci yn dal yn broblem mewn cymunedau ar draws y wlad.  Nod ymgyrch Cadwch Gymru’n Daclus yw codi ymwybyddiaeth o’r peryglon iechyd sydd yn gysylltiedig â baw cŵn; nid yn unig i bobl ond hefyd i anifeiliaid fferm ac anifeiliaid anwes eraill.

Gall baw ci sydd wedi ei adael ar ôl gario bacteria niweidiol all barhau yn y pridd ymhell ar ôl iddo bydru.

Mae’r ymgyrch cenedlaethol yn cael ei gynnal fel rhan o Caru Cymru – mudiad cynhwysol sydd yn cael ei arwain gan Cadwch Gymru’n Daclus ac awdurdodau lleol i ysbrydoli pobl i weithredu a gofalu am yr amgylchedd.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol dros yr Amgylchedd:
“Rydym yn edrych ymlaen i fod yn rhan o’r ymgych bwysig yma ynghyd â’r awdurdodau lleol sy’n bartneriaid i ni, fel y gallwn gadw Blaenau Gwent yn lle glân i fyw ynddo ac ymweld ac ef. Mae cyfran fach o berchnogion cŵn sy’n dal i beidio glanhau ar ôl eu cŵn, felly gofynnwn iddynt ddechrau gwneud hynny. Mae biniau baw ci ym mhob rhan o’r fwrdeistref felly nid yw’n rhaid iddynt fynd ag ef adre gyda nhw. Rydym yn ceisio ei wneud mor rhwydd ag sydd modd i gael gwared â baw ci, ond rydym angen help perchnogion cŵn i gadw’r fwrdeistref yn lan.

“Nid yw’n waith dymunol ond mae’n bwysig iawn a hoffem ddiolch i’r holl berchnogion cŵn cyfrifol sy’n glanhau ar ôl eu cŵn”.

Mae pobl yn Blaenau Gwent ac ar draws Cymru yn cael eu hannog i ymuno â’r ymgyrch newydd.  Ewch i wefan Cadwch Gymru’n Daclus i ganfod mwy a lawrlwytho deunyddiau am ddim: www.keepwalestidy.cymru/caru-cymru 

Mae Caru Cymru wedi derbyn cyllid trwy Gymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru – Rhaglen Datblygu Gwledig 2014-2020, a ariennir gan Gronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig a Llywodraeth Cymru.