Y Gronfa Ffyniant Gyffredin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd

Am y Gronfa Rhannu Ffyniant

Ym mis Ebrill cyhoeddodd Llywodraeth y Deyrnas Unedig fanylion y Gronfa Ffyniant Gyffredin newydd £2.6bn. Dyrennir y cyllid i leoedd ar draws y Deyrnas Unedig ar sail anghenion, ac mae manylion y dyraniadau ar gael ar wefan Llywodraeth y DU. Bydd y Gronfa hon yn cefnogi amcanion Ffyniant Bro Llywodraeth y Deyrnas Unedig, sef:
• Hybu cynhyrchiant, tâl, swyddi a safonau byw drwy dyfu’r sector preifat, yn arbennig yn y lleoedd hynny lle maent yn llusgo ar ôl
• Lledaenu cyfleoedd a gwella gwasanaethau cyhoeddus, yn arbennig yn y mannau hynny lle maent wannaf
• Adfer ymdeimlad o gymuned, balchder lleol a pherthyn, yn arbennig yn y lleoedd hynny lle cawsant eu colli
• Grymuso arweinwyr a chymunedau lleol, yn arbennig yn y lleoedd hynny heb asiantaeth lleol

Mae ganddi dair blaenoriaeth buddsoddi er mwyn gwneud hyn:
• Cymuned a Lle
• Cynorthwyo Busnesau Lleol; a
• Pobl a Sgiliau

Mae hefyd Multiply, elfen neilltuol o’r gronfa sy’n rhan o’r flaenoriaeth Pobl a Sgiliau, sy’n anelu i wella sgiliau rhifedd oedolion. Mae nifer o amcanion ar gyfer Cymru ar gyfer pob un o’r blaenoriaethau hyn. Caiff y rhain eu crynhoi islaw. Cynigir hefyd gyfres o ymyriadau ar gyfer pob amcan, sy’n rhoi manylion y mathau o weithgaredd y gall y Gronfa Ffyniant Gyffredin eu cefnogi. Mae manylion yr amcanion a’r ymyriadau ar gael ar wefan Llywodraeth y DU.

Blaenoriaethau ac Amcanion y Gronfa Ffyniant Gyffredin

Blaenoriaeth       Amcan
Cymunedau a lle
  • Cryfhau ein gwead cymdeithasol a meithrin ymdeimlad o falchder a pherthyn yn lleol, drwy fuddsoddi mewn gweithgareddau sy’n gwella cysylltiadau ffisegol, diwylliannol a chymdeithasol a mynediad i amwynderau, fel seilwaith cymunedol a man gwyrdd lleol, a phrosiectau a arweinir gan y gymuned
  • Adeiladu cymdogaethau cydnerth, iach a diogel, trwy fuddsoddi mewn lleoedd o ansawdd y mae pobl eisiau byw, gweithio, chwarae a dysgu ynddynt, trwy welliannau targedig i’r amgylchedd adeiledig a naturiol ac ymagweddau arloesol at atal troseddu.
Cynorthwyo busnesau lleol
  • Creu swyddi a hybu cydlyniant cymunedol, trwy fuddsoddiadau sy’n adeiladu ar ddiwydiannau a sefydliadau presennol, ac sy’n amrywio o gymorth i fusnesau sy’n cychwyn arni i welliannau gweladwy i gyfleusterau’r sectorau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn lleol.
  • Hyrwyddo rhwydweithio a chydweithredu, drwy ymyriadau sy’n dod â busnesau a phartneriaid at ei gilydd o fewn ac ar draws sectorau i rannu gwybodaeth, arbenigedd ac adnoddau, ac ysgogi arloesedd a thwf.
  • Cynyddu buddsoddiad y sector preifat mewn gweithgareddau sy’n hybu twf, trwy gymorth targedig i fusnesau bach a chanolig.

 

Pobl a Sgiliau
  • Hybu sgiliau craidd a chynorthwyo oedolion i wneud cynnydd mewn gwaith, trwy dargedu oedolion heb unrhyw gymwysterau neu gymwysterau ar lefel isel a sgiliau mewn mathemateg, ac uwchsgilio’r boblogaeth weithio.
  • Lleihau lefelau anweithgarwch economaidd trwy fuddsoddi mewn cymorth dwys ar gyfer bywyd a chyflogaeth wedi’i deilwra at angen lleol.
  • Cynorthwyo pobl sydd bellaf i ffwrdd oddi wrth y farchnad lafur i oresgyn rhwystrau rhag gwaith trwy ddarparu cymorth cydlynol, wedi’i deilwra’n lleol, gan gynnwys mynediad at sgiliau sylfaenol.
  • Cynorthwyo ardaloedd lleol i ariannu bylchau mewn darpariaeth sgiliau leol i gefnogi pobl i wneud cynnydd yn y gwaith, ac ategu darpariaeth sgiliau i oedolion yn lleol.

 

Ar gyfer Prifddinas-Ranbarth Caerdydd mae cyfanswm dyraniad o £278m, gyda £48m o hynny wedi ei ddyrannu’n benodol ar gyfer rhaglen Mutliply. Mae’r £278m yn seiliedig ar groniad o ddyraniadau lleol i bob un o’r deg awdurdod sy’n rhan o Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Caiff y cyllid hwn ei ddyrannu yn flynyddol a daw i ben ym mis Mawrth 2025.

Sut fydd y Gronfa Ffyniant Gyffredin yn gweithredu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd
Mae angen i Lywodraeth y Deyrnas Unedig yn gyntaf gymeradwyo Cynllun Buddsoddi er mwyn datgloi cyllid. Caiff y cynlluniau hyn eu datblygu ar sail ranbarthol yng Nghymru, gan olygu ar gyfer De Ddwyrain Cymru y bydd yn rhaid datblygu cynllun ar gyfer ardal Prifddinas-Ranbarth Cymru. I wneud hyn bydd angen i’r awdurdodau lleol yn y Brifddinas-Ranbarth i ddynodi awdurdod arweiniol i ddod â’r cynllun ynghyd.

The plan will need to outline:
1. Cyd-destun lleol: dangos tystiolaeth o gyfleoedd a heriau drwy lens y tair blaenoriaeth buddsoddiad ar gyfer Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig.
2. Dethol deilliannau ac ymyriadau: dynodi’r canlyniadau i’r targed yn seiliedig ar gyd-destun lleol, a’r ymyriadau i’w blaenoriaethu, dan bob blaenoriaeth buddsoddi.
3. Cyflenwi: manylion:

a. Dull darparu a llywodraethu
b. Gwariant a’r hyn a gyflawnir
c. Galluedd ac adnoddau

Mae angen cyflwyno cynlluniau buddsoddi erbyn 1 Awst 2022. Ar ôl eu cyflwyno bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn asesu ceisiadau ac yn cysylltu gyda’r awdurdod lleol er mwyn cytuno. Lle na fedrir dod i gytundeb ar gynllun y tro cyntaf, bydd Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn rhoi adborth i’r awdurdod lleol arweiniol ac yn gweithio er mwyn cytuno.

Sut y gallaf i ddylanwadu ar y Cynllun Buddsoddi?
Mae’r Cynllun Buddsoddi yn golygu fod angen dynodi cyfleoedd a heriau lleol sy’n gysylltiedig â thair blaenoriaeth buddsoddi y Gronfa Ffyniant Gyffredin, ac i wedyn ddynodi’r deilliannau a’r ymyriadau sy’n mynd i’r afael yn y ffordd orau â’r heriau hynny. Byddem felly yn croesawu unrhyw bartneriaid i gyflwyno unrhyw dystiolaeth i gefnogi datblygu’r cynllun, yn benodol yn ymwneud â’r materion a ddynodir yn y tabl islaw:

Maes        Enghraifft o wybodaeth
Cyfleoedd a heriau
  • Tystiolaeth o’r angen am gefnogaeth yn gysylltiedig gyda thair blaenoriaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin
  • Meysydd cyfle yn gysylltiedig â thair blaenoriaeth y Gronfa Ffyniant Gyffredin
Deilliannau
  • Wa ddeilliannau ddylai fod yn ffocws y Gronfa Ffyniant Gyffredin ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd?
  • Sut olwg fyddai ar lwyddiant i Brifddinas-Ranbarth Caerdydd?
Ymyriadau
  • Pa ymyriadau a ddynodir yn y Gronfa Ffyniant Gyffredin ddylai gael blaenoriaeth?
  • Pa fathau o brosiectau a ddylai gael eu cynorthwyo?

Dylid nodi na fyddwn yn gofyn am sylwadau na chynigion ar gyfer prosiectau ar y cam hwn. Fodd bynnag, pe dymunech awgrymu’r mathau o brosiectau y gellid eu cynorthwyo gellir defnyddio hyn i helpu llywio’r Cynllun Buddsoddi.

Beth mae Cronfa Ffyniant Gyffredin y Deyrnas Unedig yn ei olygu i gymunedau, preswylwyr a mudiadau lleol?
Datblygu’r Cynllun Buddsoddi yw dechrau proses y Gronfa Rhannu Ffyniant. Yn y cyfnod rhwng cyflwyno a chymeradwyo, bydd yr awdurdod arweiniol yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol i roi manylion pellach ar sut y caiff y gronfa ei gweinyddu ym Mhrifddinas-Ranbarth Caerdydd. Yn ystod y cyfnod hwn byddwn yn gweithio gyda phartneriaid lleol i ystyried cyfnod cyflenwi y Gronfa Ffyniant Gyffredin.

Camau nesaf a dyddiadau pwysig

Pryd        Gweithgaredd
Haf 2022
  • Cyhoeddi canllawiau pellach yn cynnwys canllawiau ar fonitro buddion a gwerthusiad, sicrwydd, rheoli cymhorthdal, brandio a chyhoeddusrwydd
  • Cyhoeddir prosesau a thempledi cais ar gyfer Gogledd Iwerddon – gall awdurdodau lleol arweiniol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban eu defnyddio os dymunir hynny
30 Mehefin 2022
  • Ffenestr y cynllun buddsoddi yn agor
1 Awst 2022
  • Ffenestr y cynllun buddsoddi yn cau
Gorffennaf - Medi 2022
  • Cyfnod asesu cynllun buddsoddi dangosol ar gyfer Llywodraeth y Deyrnas Unedig
Hydref 2022 ymlaen
  • Dyddiad disgwyliedig ar gyfer cymeradwyo’r cynlluniau buddsoddi cyntaf
Hydref 2022 ymlaen
  • Taliad cyntaf disgwyliedig i awdurdodau lleol arweiniol
Mawrth 2025
  • Cyfnod ariannu tair-blynedd yn dod i ben