Y Cyngor yn nodi ei flaenoriaethau yng Nghynllun Corfforaethol 2022-27

Mae cynghorwyr Blaenau Gwent heddiw wedi cymeradwyo Cynllun Corfforaethol newydd sy’n nodi blaenoriaethau’r Awdurdod ar gyfer yr ychydig flynyddoedd nesaf.

Mae’r Cynllun yn amlinellu Gweledigaeth newydd y Cyngor:

‘Blaenau Gwent - lle sy’n deg, agored a chroesawgar i bawb drwy weithio gyda a thros ein cymunedau’.

Mae pedair blaenoriaeth lefel uchel (a elwir hefyd yn amcanion llesiant) a gynlluniwyd i gefnogi cymunedau ym Mlaenau Gwent i ffynnu:

Yr egwyddorion yw:

  • Cynyddu dysgu a sgiliau i’r eithaf ar gyfer pawb i greu Blaenau Gwent lewyrchus, ffyniannus a chydnerth
  • Ymateb i’r argyfwng natur a hinsawdd a galluogi cymunedau cysylltiedig
  • Cyngor uchelgeisiol a blaengar yn darparu gwasanaethau ansawdd da ar yr adeg gywir ac yn y lle cywir
  • Grymuso a chefnogi cymunedau i fod yn ddiogel, annibynnol a chydnerth

Cafodd yr egwyddorion hefyd eu datblygu i fod yn gydnaws gydag Egwyddorion Marmot a’r blaenoriaethau a amlinellir yng Nghynllun Llesiant Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent. Caiff pob un o’r blaenoriaethau ei seilio ar gynlluniau busnes cadarn a chynaliadwy, sy’n disgrifio’r gweithgaredd uchelgeisiol i’w gyflawni gan bob maes gwasanaeth o’r Cyngor, gan sicrhau y caiff y Cyngor ei ddal i gyfrif am yr hyn yr addawodd ei gyflawni.

Cytunodd Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Gwent i ddod yn Rhanbarth Marmot ac i fabwysiadu wyth egwyddor Marmot i ostwng anghydraddoldeb iechyd ar draws Gwent ac i weithio mewn partneriaeth gyda’r Sefydliad Tegwch Iechyd (IHE) i drin penderfynyddion cymdeithasol iechyd. Gwent yw’r ardal gyntaf yng Nghymru i ddod yn rhanbarth Marmot. Mae mwy o wybodaeth am Egwyddorion Marmot ar gael yma.  

Dywedodd y Cyng Steve Thomas, Arweinydd Cyngor Blaenau Gwent:

“Ynghyd â’r cynghorau eraill yng Ngwent, rydym yn gweithio tuag at ddod yn rhanbarth sy’n anelu i fynd i’r afael a gostwng anghydraddoldeb, yn seiliedig ar egwyddorion Marmot. Rydym eisiau gweithio i sicrhau y cafodd ein polisïau, dulliau gweithredu ac adnoddau i gyd eu cynllunio a’u defnyddio i greu cymdeithas decach a mwy cyfartal ar gyfer ein preswylwyr.

“Bydd hyn yn ganolog i’r ffordd y byddwn yn datblygu a darparu ein gwasanaethau ar draws y blynyddoedd cynnar, addysg a sgiliau, trafnidiaeth, tai, lleoedd a gofodau, a swyddi a busnesau. Fel cyngor gwrth-dlodi, gwnawn bopeth yn ein gallu i gefnogi pobl y mae tlodi yn effeithio arnynt a’r rhai mwyaf bregus. Drwy werthfawrogi a hyrwyddo iechyd da, addysg a dysgu, gallwn helpu pobl i gyrraedd eu potensial llawn. Bydd hyn yn ei dro yn cyfrannu at greu cymunedau mwy gwybodus a gyda chysylltiadau gwell ledled Blaenau Gwent ac sy’n deg, agored a chroesawgar i bawb, lle gall pawb gymryd rhan weithgar.”

https://www.blaenau-gwent.gov.uk/cy/cyngor/polisiau-strategaethau-a-chynlluniau/cynllun-corfforaethol-blaenau-gwent-2022-27/