Y Cyngor yn mabwysiadu Siarter Marw i Weithio y TUC

Nod Siarter Marw i Weithio y TUC yw lliniaru peth o’r pwysau os yw gweithiwr yn cael diagnosis angheuol. Mae’n nodi ffordd a gytunwyd ar gyfer trin gweithiwr a’i gefnogi mewn achos o ddiagnosis angheuol.

 

Mae’r siarter yn ymwneud â dewis a rhoi opsiynau unigol am sut y dymunant fynd ymlaen yn y gwaith. Mewn rhai achosion, bydd unigolyn eisiau parhau i weithio cyhyd ag y gall, oherwydd sicrwydd ariannol neu am bod gwaith yn gallu tynnu eu sylw oddi ar eu salwch. Mewn achosion eraill, gall unigolyn benderfynu nad yw’n dymuno gweithio mwyach ac y byddai’n well ganddynt dreulio yr amser sy’n weddill iddynt gyda pherthnasau a ffrindiau, cael eu pethau mewn trefn neu ddim ond gwneud yr hyn maent eisiau. Beth bynnag mae person yn ei ddewis, dylent ddisgwyl help a chefnogaeth gan eu cyflogwr.

Drwy lofnodi’r Siarter, cytunodd y Cyngor i:

  • Adolygu tâl salwch a gweithdrefnau absenoldeb salwch a chynnwys datganiad penodol na fyddwn yn diswyddo unrhyw berson gyda diagnosis angheuol oherwydd eu cyflwr.
  • Sicrhau fod gan y Rhaglen Cymorth i Weithwyr y capasiti a’r galluedd i roi cefnogaeth i unrhyw berson gyda salwch angheuol, yn cynnwys mynediad i gwnsela a chyngor ariannol.
  • Rhoi hyfforddiant i reolwyr llinell a holl staff Datblygu Sefydliadol ar ddelio gyda salwch angheuol, yn cynnwys sut i drafod cynlluniau’r dyfodol gydag unrhyw weithiwr sydd â diagnosis o salwch angheuol, a pha addasiadau y gall fod eu hangen i drefniadau gwaith.
  • Mabwysiadu Siarter Marw i Weithio a hysbysu ein holl weithwyr ein bod wedi gwneud yr ymrwymiadau a gynhwysir ynddo.

Dywedodd Damien McCann, Prif Weithredwr Interim Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent:

“Rydym yn cefnogi Ymgyrch Marw i Weithio y TUC a drwy lofnodi’r Siarter Marw i Weithio dangoswn ein hymrwymiad i gefnogi cydweithwyr pe byddent yn derbyn diagnosis o salwch angheuol. Mae diagnosis angheuol yn drychinebus ac mae’n gyfnod o straen emosiynol enfawr, ofn ac ansicrwydd. Mae iechyd a llesiant ein staff yn flaenoriaeth a phan fo salwch difrifol neu angheuol yn wynebu gweithwyr mae’n bwysig y gallant ddewis y llwybr sy’n gywir iddyn nhw a’u teuluoedd, heb ofid ychwanegol ansicrwydd ariannol.”