Y cerbydau trydan cyntaf yn ymuno â fflyd Cyngor Blaenau Gwent

Daeth y cerbydau trydan cyntaf yn nodwedd barhaol o fflyd cyngor Blaenau Gwent. Mae pedair fan diben cyffredinol trydan wedi eu gwefru ac yn barod i helpu gostwng ôl-troed y carbon.

Prynwyd y cerbydau gyda chyllid o Wasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru, a byddant yn dawelach na faniau traddodiadol ond hefyd yn gallu teithio hyd at tua 140 milltir ar ôl pob sesiwn gwefru. Caiff y faniau eu defnyddio gan Arolygwyr Priffyrdd.

Dywedodd y Cynghorydd Joanna Wilkins, Aelod Gweithredol yr Amgylchedd:
"Rwy’n falch iawn fod y cerbydau trydan cyntaf wedi ymuno â fflyd y cyngor ac y bydd y faniau newydd hyn yn cyfrannu at ein nod o ostwng allyriadau carbon. Fel cyngor rydym yn ymroddedig i fynd i’r afael â newid hinsawdd a byddwn yn gweld mwy o gerbydau carbon isel yn cael eu defnyddio yn y dyfodol.”

Mae gan y faniau Maxus e Delivery 3 gyfluniad batri 52.5Kw sy’n 100% drydanol ac yn defnyddio technoleg polymer lithiwm.