Wythnos Safonau Masnach Cymru: 'Llwybr Diogel i Sero Net'

Mae Safonau Masnach Cymru (TSW) yn rhybuddio defnyddwyr sy'n ceisio lleihau eu hallyriadau carbon, ynni a biliau tanwydd. O brofiad blaenorol, mae cymhellion newydd a galw uwch am wasanaethau yn dod â chynnydd mewn masnachwyr twyllodrus.

Bydd ymgyrch ym mis Hydref yn gweld amrywiaeth o ddigwyddiadau wedi'u hanelu at dargedu masnachwyr twyllodrus a darparu gwybodaeth a chymorth i ddefnyddwyr, sy'n fwyfwy agored i sgamiau oherwydd yr argyfwng costau byw.

Bydd wythnos TSW hefyd yn gweld lansio pecyn cymorth i Gymru i gefnogi gorfodi deddfwriaeth yn ymwneud â Thystysgrifau Perfformiad Ynni. Mae treialon diweddar mewn un awdurdod lleol wedi dangos bod ymgysylltu â landlordiaid i gynyddu sgôr ynni eiddo wedi arwain at ostyngiad mewn allyriadau carbon blynyddol o 198.5 tunnell, gostyngiad mewn ynni o 178.3 kwh a gostyngiad mewn biliau tanwydd o dros £58,000 (prisiau Ebrill 2022).

Mae TSW yn gofyn i ddefnyddwyr sy'n gwneud cais am grantiau ar gyfer cynlluniau effeithlonrwydd ynni sicrhau eu bod yn darparu eu gwybodaeth trwy sianeli dilys - bob amser yn cymryd amser i ystyried hysbysebion cyfryngau cymdeithasol a galwadau neu negeseuon e-bost digymell. Byddwch yn ymwybodol y dylai contractau a lofnodir yn y cartref neu o bell gynnig cyfnod canslo cyn i'r gwaith ddechrau. Wrth chwilio am fasnachwyr, gofynnwch i ffrindiau a theulu am argymhellion, yn hytrach na phostio ar wefannau cyfryngau cymdeithasol. Anogir defnyddwyr sydd wedi prynu gwres neu insiwleiddio 'gwyrdd' yn ddiweddar i rannu eu profiad drwy'r Asiantaeth Cystadleuaeth a Marchnadoedd Diogelu defnyddwyr yn y sector gwresogi ac inswleiddio gwyrdd: galwad am wybodaeth - GOV.UK (www.gov.uk)

Mae TSW yn gofyn i fasnachwyr a all fod yn ansicr o hyd o'u cyfrifoldebau cyfreithiol i gysylltu â'u hawdurdod lleol, awdurdod sylfaenol neu gorff masnachu am gymorth, neu ddod o hyd i gyngor yn Home | Business Companion

Am ragor o wybodaeth, ewch i: https://safonaumasnach.llyw.cymru/cym/home/