Taith Gerdded Lles – Dynion sy'n Gofalu

Eleni, i ddathlu Pythefnos Gofal Maeth, penderfynodd Gwent gynnal Taith Gerdded Lles Dynion sy'n Gofalu ranbarthol ym Mharc Pont-y-pŵl, yn Nhorfaen.

Daeth ein 5 awdurdod lleol ynghyd i godi ymwybyddiaeth am bŵer trawsnewidiol maethu ac i ddathlu'r gymuned faethu, yn benodol gofalyddion maeth gwrywaidd ein hawdurdodau lleol.

Felly, rhoddodd ein Taith Gerdded Lles gyfle i'n gofalyddion maeth gwrywaidd rannu gyda'r byd #PamRydymYnGofalu.

Roedd Canolfan Hamdden Pont-y-pŵl mor garedig â darparu man awyr agored, yn ogystal â diodydd a phecynnau rhoddion ar gyfer gofalyddion maeth gwrywaidd yr awdurdod lleol ac felly hoffem ni ddiolch iddyn nhw am eu lletygarwch a'u haelioni rhyfeddol.

Ymgyrch flynyddol y Rhwydwaith Maethu yw Pythefnos Gofal Maeth i godi ymwybyddiaeth am faethu a dangos sut y gall gofal maeth drawsnewid bywydau. Eleni, bydd Pythefnos Gofal Maeth yn digwydd o heddiw tan 23 Mai.