Sut i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd mis Mai 2021

Sut i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd mis Mai 2021

Oeddech chi'n gwybod, ni waeth ble y cawsoch chi eich geni, os ydych chi'n byw yng Nghymru ac yn 16 oed neu'n hŷn, gallwch chi nawr bleidleisio yn etholiadau'r Senedd 2021. Mae hwn yn newid mawr i'n democratiaeth yng Nghymru ac yn rhoi cyfle i filoedd o bleidleiswyr newydd ddweud eu dweud.

Rhaid i chi fod wedi'ch cofrestru i bleidleisio erbyn hanner nos ddydd Llun 19 Ebrill. I gael rhagor o wybodaeth neu gofrestru i bleidleisio, ewch i: www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio

Felly, sut mae pleidleisio?

Mae tair ffordd o bleidleisio yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai 2021: yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio; drwy bleidlais drwy'r post; neu drwy benodi dirprwy i bleidleisio ar ran pleidleisiwr. 

Gorsafoedd pleidleisio – Gall pleidleiswyr sy'n mynd i orsafoedd pleidleisio ddisgwyl gweld llawer o'r mesurau diogelu y maen nhw eisoes yn gyfarwydd â hwy erbyn hyn.   Bydd mesurau cadw pellter cymdeithasol ar waith y tu mewn a'r tu allan i orsafoedd pleidleisio a dylai pob pleidleisiwr wisgo gorchudd wyneb.

Pleidleisio drwy'r post – I wneud cais am bleidleisio drwy'r post yng Nghymru, bydd angen i chi lawrlwytho'r ffurflen gais am bleidlais drwy'r post, ei hargraffu a'i llenwi. Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy'r post ar gyfer yr etholiadau yw 5pm ddydd Mawrth 20 Ebrill.

Pleidleisio drwy ddirprwy – Os na allwch chi bleidleisio yn bersonol, gallwch chi benodi rhywun rydych chi'n ymddiried ynddo bleidleisio ar eich rhan. I wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy, rhaid i chi lenwi ffurflen a rhoi rheswm pam na allwch chi gyrraedd yr orsaf bleidleisio yn bersonol. Y dyddiad cau i wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy ar gyfer etholiadau'r Senedd yw 5pm ddydd Mawrth 27 Ebrill.

Mae eich pleidlais yn cyfrif, peidiwch â cholli'ch cyfle. Os ydych chi'n gymwys, cofrestrwch i bleidleisio ar-lein yn www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio – mae'n gyflym ac yn rhwydd, a bydd yn sicrhau eich bod chi'n gallu cymryd rhan yn etholiadau'r Senedd ar 6 Mai 2021.