Safonau Masnach yn atafaelu cynnyrch tybaco anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent

Cynhaliodd Safonau Manach Blaenau Gwent, gyda chefnogaeth Safonau Masnach Cymru a’r Safonau Masnachu Cenedlaethol, ddau ddiwrnod o weithgaredd gweithredu yn ddiweddar i fynd i’r afael â’r cyflenwad o gynnyrch tybaco anghyfreithlon yn yr ardal.

Fe wnaeth swyddogion ganfod ac atafaelu sigaréts a thybaco  rholio anghyfreithlon mewn gwahanol safleoedd manwerthu a cherbydau yn gysylltiedig gyda nhw. Fe wnaethant atafaelu cyfanswm 46,119 o sigaréts a 20.9k o dybaco rholio.

Cafodd swyddogion eu cefnogi gan gŵn canfod tybaco arbenigol o BWY Canine, yn cynnwys yr uwch arogleuydd YoYo.

Dywedodd Richard Crook, Cyfarwyddwr Adfywio a Gwasanaethau Cymunedol:

“Mae cyflenwi cynnyrch tybaco anghyfreithlon yn dod â throseddu i’n cymdogaethau. Dangoswyd fod y gweithgaredd hwn yn galluogi plant i gael mynediad i sigaréts a thybaco ar brisiau arian poced. Mae hefyd yn niweidio busnesau dilys sy’n masnachu’n gyfreithlon ac yn cadw at y rheolau.

“Mae mynd i’r afael â’r masnach anghyfreithlon mewn baco yn flaenoriaeth bwysig i Gyngor Blaenau Gwent. Mae ysmygu’n parhau i gyfrannu at fwy o farwolaethau cynamserol yng Nghymru nag unrhyw achos arall. Mae ysmygu cynnyrch tybaco anghyfreithlon rhad yn galluogi pobl ifanc i ddod yn gaeth ac yn llesteirio rhai sydd eisoes yn ysmygu rhag rhoi gorau i’r arfer.”

Croesewir gwybodaeth am y cyflenwad o dybaco anghyfreithlon ym Mlaenau Gwent ac ardaloedd eraill a gellir ei rhoi drwy gysylltu â Crimestoppers ar 0800 555111 neu Wasanaeth Defnyddwyr Cyngor ar Bopeth yn
https://www.citizensadvice.org.uk/consumer/get-more-help/if-you-need-more-help-about-a-consumer-issue/

Gall hyn fod yn ddienw.