Rhaglen Teithio Llesol 2021-22

Fel rhan o Raglen Teithio Llesol y Cyngor, rydym yn annog preswylwyr Blaenau Gwent i gerdded, neu feicio, fel rhan o’u teithiau bob dydd.

Yn gynharach yn 2021 gwnaethom geisio eich barn ar sut y gellir gwella darpariaeth beicio a cherdded ym Mlaenau Gwent ac yn benodol lle mae cyfleusterau fel ysgolion, canolfannau hamdden, safleoedd cyflogaeth ac ardaloedd siopa lleol, y gall pobl gerdded neu feicio pellteroedd byr iddynt.

Roedd yr ymgysylltiad cyhoeddus hwn yn llwyddiannus iawn gyda dros 400 o bobl yn cymryd rhan.

Rydym wedi ystyried yr holl sylwadau yn ofalus ac wedi cyfuno'r farn gyhoeddus hon ynghyd â gwybodaeth berthnasol arall i gynhyrchu Map Rhwydwaith Teithio Llesol.

Mae hwn wedi’i lansio ar wefan newydd ac rydym yn gofyn yn awr:

  • Ydyn ni wedi nodi'r llwybrau cywir ar gyfer gwella (llwybrau yn y dyfodol)?
  • Ydyn ni'n gywir yn ein hasesiad o lwybrau sydd eisoes yn cwrdd â'r safonau y cytunwyd arnynt (llwybrau presennol)?
  • Ydyn ni wedi nodi'r holl lwybrau newydd priodol?

I gymryd rhan yn y drafodaeth, cliciwch ar y ddolen gwefan newydd:
https://blaenaugwentat.commonplace.is/cy-GB

Defnyddir yr holl wybodaeth a gesglir i lywio datblygiad y Map Rhwydwaith Teithio Llesol ar gyfer Blaenau Gwent, a fydd yn nodi cynllun 15 mlynedd ar gyfer seilwaith a gwelliannau, gan adlewyrchu blaenoriaethau pobl leol.

Am wybodaeth bellach, e-bostiwch: janet.mccarthy@blaenau-gwent.gov.uk