Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel yn dathlu gwobr genedlaethol

Cafodd llwyddiant Rhaglen Prentisiaethau flaengar sy’n anadlu bywyd newydd i’r sector gweithgynhyrchu uwch ar draws dwy ardal awdurdod lleol yn Ne Cymru ei gydnabod gyda gwobr genedlaethol bwysig

Enillodd Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr Tudful wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn yn seremoni rithiol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 ar 17 Mehefin.

Cafodd y rhaglen Rhannu Prentisiaethau ei chreu chwe mlynedd yn ôl i fynd i’r afael â diweithdra uchel a lefelau sgiliau cymharol isel o fewn y diwydiant gweithgynhyrchu ar draws Blaenau Gwent a Merthyr Tudful.

Bu’r rhaglen o fudd uniongyrchol i 123 prentis yn ogystal â chwmnïau a fabwysiadodd ei dull gweithredu arloesol. Caiff dysgwyr eu symud ymysg cyflogwyr newydd drwy lenwi bylchau sgiliau drwy hyfforddiant ar y swydd a gweithio i gyflawni unedau tuag at eu prentisiaeth.

Wrth ymateb i wobr Cyflogwr Mawr y Flwyddyn, dywedodd Tara Lane, rheolwr datblygu sgiliau rhanbarthol Anelu’n Uchel, Tara Lane:
“Mae Anelu’n Uchel Blaenau Gwent a Merthyr mor falch i ennill y wobr bwysig hon eto a hoffwn ddiolch i’n partneriaid, cyflogwyr nawdd ac yn bwysicaf oll ein prentisiaid am eu holl waith caled mewn blwyddyn mor anodd i bawb. Bu’n amser heriol ond mae pawb wedi addasu a rydym wedi parhau i gyflwyno llwybr ansawdd uchel o raglen hyfforddiant a chefnogaeth drwy’r cyfan.”

Gan ddathlu llwyddiannau rhagorol mewn hyfforddiant a phrentisiaethau, roedd 35 yn rownd derfynol Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn cystadlu mewn 12 categori.

Yn uchafbwynt y calendr dysgu seiliedig ar waith, mae’r gwobrau yn rhoi sylw i fusnesau ac unigolion sydd wedi rhagori ar Raglenni Prentisiaeth a Hyfforddiant Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod y cyfnod digynsail hwn.

Wedi’i drefnu ar y cyd gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol Cymru, prif noddwr y gwobrau oedd Openreach, busnes rhwydwaith digidol y Deyrnas Unedig sy’n gefnogwr angerddol i brentisiaethau.

Ychwanegodd y Cynghorydd David Davies, Aelod Gweithredol Adfywio a Datblygu Economaidd:
 “Mae’r gwobrau hyn yn gyfle gwych i ddangos, dathlu ac arddangos pwysigrwydd prentisiaethau ledled Cymru, tra’n rhoi sylw i waith caled anhygoel unigolion, cyflogwyr a darparwyr. Llongyfarchiadau enfawr i dimau Anelu’n Uchel Blaenau Gwent ac Anelu’n Uchel Merthyr sy’n gwneud cyfraniad gwych drwy eu Rhaglen Rhannu Prentisiaeth. Rwyf mor falch o’r hyn a gyflawnwyd gan fod y gystadleuaeth yn y categori hwn yn uchel iawn, sy’n gwneud ennill hyd yn oed yn fwy o gamp”.

Cyllidir y Rhaglen Prentisiaethau yng Nghymru gan Lywodraeth Cymru gyda chefnogaeth o Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Mae rhaglenni prentisiaethau Llywodraeth Cymru wedi bod o fudd i 50,360 o bobl ar draws de ddwyrain Cymru ers mis Mai 2016.

Sefydlwyd Rhaglen Rhannu Prentisiaethau Anelu’n Uchel yn 2015 pan ddynododd Bwrdd Parth Menter Glynebwy fod diffyg sylweddol o gyflogeion gyda sgiliau ar Lefel 3 ac uwch ym Mlaenau Gwent. Ddwy flynedd yn ddiweddarach ymunodd Merthyr Tudful i ddatblygu ei dwf busnes a hybu sgiliau tra’n mynd i’r afael â diweithdra.

Mae Anelu’n Uchel yn awr yn gweithio gyda Choleg y Cymoedd, sy’n cysylltu gyda Choleg Gwent a Choleg Merthyr Tudful i feithrin cenhedlaeth nesaf gweithwyr medrus drwy brentisiaethau yn cynnwys Peirianneg Drydanol, Peirianneg Fecanyddol, Technoleg Gwybodaeth a Chyfathrebu, Gwyddor Gymwysedig, Peirianneg Ansawdd yn ogystal â Gweinyddu a Chyllid Busnes/Masnachol.

Gyda tharged o recriwtio 20 o brentisiaid newydd bob blwyddyn, mae Anelu’n Uchel wedi sicrhau cyfradd llwyddiant o 100% drwy dîm yn hwyluso eu cyflogaeth gyda noddwyr ac wedyn yn trin unrhyw faterion fel y maent yn digwydd. Mae mwy na 30 o gyflogwyr wedi cymryd rhan yn y rhaglen.

“Mae Anelu’n Uchel yn enghraifft go iawn o gydweithio,” meddai Matthew Tucker, pennaeth cynorthwyol Coleg y Cymoedd. “Mae llwyddiant y rhaglen wedi gwneud Anelu’n Uchel yn brosiect blaenllaw yn y sector.”

Wrth longyfarch Anelu’n Uchel dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi: “Mae enillwyr y gwobrau wedi rhagori drwy raglenni Prentisiaeth a Hyfforddiant Llywodraeth Cymru ac wedi mynd yr ail filltir i sicrhau llwyddiant yn ystod cyfnod digynsail a heriol iawn.

“Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau adfer uchelgeisiol i sicrhau nad oes cenhedlaeth goll wrth i ni ailadeiladu fersiwn newydd o Gymru sy’n dod yn beiriant ar gyfer twf cynaliadwy, cynhwysol. Rwy’n credu y bydd prentisiaethau yn hollbwysig i ni wrth ddod allan o’r pandemig.

“Dyna pam fod Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i greu 125,000 arall o leoedd Prentisiaeth dros y pum mlynedd nesaf. Gwlad fechan ydyn ni, ond mae gennym uchelgeisiau mawr, a’n nod yw creu diwylliant yng Nghymru lle daw recriwtio prentis yn norm i gyflogwyr.”